Bydd trigolion ym Machynlleth yn gallu cefnogi un o’u plith pan fydd Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn teithio drwy’r dref yn hwyrach y mis hwn.
Bydd Stephen Doyle yn rhedeg gyda’r Fflam Olympaidd trwy strydoedd ei dref enedigol ar 28 Mai wrth i’r Daith Olympaidd deithio o amgylch y wlad ar y ffordd i’r Stadiwm Olympaidd ar gyfer y seremoni agoriadol.
Dewiswyd Stephen sy’n 67 oed fel Cludwr y Fflam o blith miloedd o enwebiadau am ei waith diflino yn y gymuned, ac er nad oedd ganddo unrhyw syniad ei fod wedi cael ei enwebu roedd yn falch iawn o glywed am y newyddion annisgwyl.
“Mae’n rhywbeth nad ydych erioed wedi meddwl y byddai’n digwydd i chi, yn enwedig fy oed i,” dywedodd. “Ni fydd y gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ym Mhrydain eto yn ystod fy oes i felly mae’n wych.
“Ges i wybod trwy alwad ffôn gan Lloyds TSB yn dweud fy mod wedi cael fy newis, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod fy mod wedi cael fy enwebu felly roedd yn syrpreis go iawn. Ychydig o ddyddiau yn ôl fe ddes i wybod mai fy ngwraig oedd wedi rhoi fy enw ymlaen, felly roedd wedi gwneud yn dda i’w cadw’n dawel!”
Mae Stephen wedi byw ym Machynlleth ers 2001 pan symudodd i lawr o’r Alban ac ers hynny mae wedi helpu nifer o sefydliadau yn yr ardal, ac mae ei haelioni wedi’i gydnabod yn briodol gyda’i rôl yn y Daith Gyfnewid.
Ychwanegodd: “Dwi wedi byw yma ers 11 mlynedd erbyn hyn ond rydym wedi bod yn dod i’r ardal hon am dros 35 o flynyddoedd ac rydym yn hoff iawn o'r lle, a dyna pam rydym am gyfrannu tuag at y gymuned oherwydd rydym yn hoff iawn o'r bobl hefyd.
“Rydw i'n drefnydd ar gyfer yr Apêl Pabi ac yn weithiwr achos ar gyfer y Lleng Prydeinig Brenhinol felly dwi’n mynd o amgylch yn ymweld â phobl i weld os gallaf eu helpu. Dwi hefyd yn gludwr baner ac yn is-gadeirydd ar eu cyfer.
“Rôl arall sydd gen i yw trefnydd iau ar gyfer Clwb Golff Machynlleth a dwi wedi dod yn hyfforddwr ar gyfer Gwobr y Ddraig sy’n golygu fy mod yn gallu cynnig hyfforddiant golff mewn ysgolion hefyd. Rydw i hefyd yn helpu’r grwp celf lleol sy’n cynnal cystadlaethau ac arddangosfeydd celf, felly dwi’n meddwl mai dyna pam dwi wedi cael fy newid.
“Rydw i'n hoff iawn o helpu’r gymuned ond doeddwn i ddim yn disgwyl cael unrhyw beth allan o hyn. Rwy'n gwneud hyn oherwydd dwi'n hoffi rhoi rhywbeth nôl. Rydw' i wedi cael bywyd da ac nid oeddwn yn disgwyl hyn, mae’n hollol annisgwyl.”
Gyda nifer o aelodau o'i deulu yn gwneud y siwrnai hir i lawr o'r Alban i Ganolbarth Cymru er mwyn ei gefnogi yn ogystal â'r gymuned leol, mae Stephen eisoes yn gwneud paratoadau ar gyfer y diwrnod mawr. Ar ôl i'r Daith Gyfnewid symud ymlaen i fannau eraill bydd ei Ffagl yn cael ei arddangos yn y clwb golff ac yn y Lleng Prydeinig trwy gydol y dydd.
“Rwy'n gwneud ychydig o redeg ac ymarfer corff yn y gampfa i golli ychydig o bwysau ond roeddwn arfer bod yn y fyddin ac yn rhedeg 26 o filltiroedd o leiaf ddwywaith y mis pan oeddwn i'n iau, felly ni fydd hi'n anodd rhedeg 300m," dywedodd.
“Ni fyddai fy nheulu erioed wedi disgwyl i mi gario'r Fflam Olympaidd, felly mae'n anhygoel i wneud hyn ym Machynlleth, nid pawb sydd wedi bod mor lwcus â mi i gael rhedeg yn eu tref enedigol. Mae fy ffrindiau a fy nheulu o Gaeredin yn dod lawr i fy ngweld i'n cario'r Fflam felly mae'n mynd i fod yn ddiwrnod ffantastig i bob yr un ohonom.”