Mae’r cyngor sir yn gofyn i bobl Powys ei helpu i roi stop ar y sgâm.
Mae’r neges yn rhan o ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgam dan ofal Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor, sy’n annog trigolion a busnesau i drosglwyddo unrhyw bost sgâm mae nhw’n ei dderbyn i lyfrgelloedd penodol trwy fis Mai.
Gallwch adael unrhyw lythyron amheus yn un o’r llyfrgelloedd canlynol yn y sir trwy gydol mis Mai:
- Aberhonddu
- Llandrindod
- Y Drenewydd
- Y Trallwng
Mae deunydd post camarweiniol yn addo y byddwch yn ennill swm enfawr o arian ar y loteri neu wobrau mawr eraill, ond eu bod bob amser yn mynnu swm o arian cyn y gallwch hawlio unrhyw wobrau.
Dywedodd Ken Yorston, Rheolwr Safonau Masnach y Cyngor: “Yn aml iawn, pobl hyn neu rai sy’n agored i niwed sy’n darged i’r sgamiau hyn, a gallant dderbyn ton ar ôl ton o lythyron – gyda rhai’n derbyn hyd at 600 o lythyron camarweiniol y mis o bob cwr o’r byd.
“Mae’r rhai sy’n cael eu twyllo gan y llythyron hyn yn gallu anfon cannoedd o bunnoedd y mis dros nifer o flynyddoedd, ac er yr addewidion o arian mawr ym mhob llythyr, does byth yr un geiniog yn dod nôl.
“Mae’r post sgam hyn yn niwsans mawr a’r neges yw ‘rhowch stop ar y sgam’. Bydd yr eitemau post a ddaw i law yn ystod y ‘sgamnesty’ eleni yn cael eu dadansoddi a byddwn yn rhannu’r wybodaeth gydag asiantaethau gorfodi partner yn y wlad hon a thramor. Bydd hyn yn creu darlun o’r hyn sy’n digwydd ac ymgyrch i chwalu’r rhwydweithiau hyn.”
Os ydych chi’n amau bod ffrind neu berthynas yn ymateb i’r llythyron hyn, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor a fydd yn gallu cynnig cyngor a chymorth. Am wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar 08456 04 05 06.
Am wybodaeth gyffredinol am waith Safonau Masnach, ewch i www.powys.gov.uk/tradingstandards