Mae’r cyngor yn ymgynghori ar gynllun drafft sy’n ceisio ateb anghenion gwahanol trigolion y sir wrth dderbyn gwasanaethau’r cyngor.
Mae modd i bobl anfon sylwadau ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2012-16 Cyngor Sir Powys tan ddydd Llun 25 Mehefin, trwy fynd i www.powys.gov.uk/dweudeichdweud.
Mae’r cynllun hefyd yn ceisio ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am swydd gyda’r cyngor yn ogystal â mynd i’r afael ag anfanteision y mae rhai pobl yn eu profi yn eu bywydau bob dydd.
Lluniwyd y ddogfen yn dilyn digwyddiadau ‘Pa mor deg yw Powys?’ a gynhaliwyd y llynedd a chanlyniadau adborth ar-lein a sylwadau eraill. Mae’r ddogfen hefyd yn cyfeirio at ddata defnyddwyr gwasanaethau’r cyngor ei hun ac ymchwil cydraddoldeb cenedlaethol.
Dywedodd Jeremy Patterson, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys: “Ynghyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, rydym wedi gofyn i bobl a ydynt yn credu bod gwasanaethau’r cyngor yn cael eu cyflwyno mewn ffordd deg, ac os na, pam hynny. Yn y cynllun hwn, rydym yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn ac rydym am ofyn i’r cyhoedd a’n partneriaid os ydym ar y trywydd iawn.
“Trwy weithio gyda’n gilydd i gael y cynllun hwn yn iawn, bydd yn helpu ni gwrdd â’n hamcanion yng Nghynllun Powys yn Un a Chynllun Newid Powys.”
Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd, mae modd cael copi caled o’r ddogfen ddrafft trwy gysylltu â’r Tîm Cydraddoldeb ar 0845 602 7030 neu 01597 827460.
Mae’r cynllun drafft yn cynnwys 10 amcan sy’n ceisio:
- Gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n tangyflawni o fewn y system addysg.
- Gwella cyfleoedd i bobl ymhlith grwpiau dan anfantais i gael gwaith.
- Helpu grwpiau dan anfantais i gael cludiant.
- Cynyddu hyder pobl dan anfantais a’u defnydd o brosesau gwleidyddol
- Gwella cyfraddau cyfeirio o ran achosion o gam-drin yn y cartref ac aflonyddu ar sail anabledd.
- Gwella’r cyfle i ddefnyddio ein gwasanaethau ac i gael gwaith.
- Cynnal ymchwil ar rai o’r swyddi â’r cyflogau isaf o fewn y cyngor er mwyn ystyried a oes gwahaniaethau hanesyddol mewn swyddi sy’n arwain at anfantais rhwng y rhywiau.
- Mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd lleol, i wella’r ffordd rydym yn cysylltu â’r gymuned leol er mwyn i ni wybod mwy am anghydraddoldeb a rhai atebion posibl.
- Cynyddu nifer y bobl o blith grwpiau economaidd-gymdeithasol isel sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol iach.
- Hyfforddi ein staff a’n haelodau etholedig er mwyn rhoi’r sgiliau iddynt i gwrdd ag anghenion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Gallwch anfon sylwadau ysgrifenedig ar y cynllun drafft at y Tîm Cydraddoldeb, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG