A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Ddiweddaraf

05.04.12 09:54 Age: 1 yrs

Powys yn cyflawni dyletswyddau iechyd anifeiliaid ym Mlaenau Gwent dan Gytundeb cydweithredu newydd

Cyhoeddwyd y bydd Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaethau iechyd a lles anifeiliaid ym Mlaenau Gwent, yn dilyn penderfyniad gan y ddau awdurdod i roi cynlluniau ar waith i wneud hynny.

O’r mis yma (Ebrill), bydd swyddogion Powys yn cyflawni dyletswyddau iechyd a lles anifeiliaid ym Mlaenau Gwent.

Mae Cynghorau yng Nghymru’n gyfrifol am orfodi amrywiaeth o ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, a bydd y trefniant trawsffiniol yma, sy’n unol ag Agenda Cydweithredu Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod y gwasanaeth statudol yn parhau ym Mlaenau Gwent.

Dyma’r cydweithredu diweddaraf y mae Gwasanaeth Safonau Masnach Powys wedi ymwneud ag ef ers cytuno i gofnodi eu data am symud defaid i’r gronfa ddata symud defaid ar gyfer cynghorau Swydd Amwythig a Merthyr Tudful.

Dywedodd Jeremy Patterson, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys: “Mae pob cyngor yng Nghymru’n edrych yn ofalus ar eu gwasanaethau i weld a oes modd eu darparu mewn modd mwy effeithlon. Trwy gydweithio, byddwn yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol i sicrhau iechyd a lles anifeiliaid.”

Dywedodd Ken Yorston, Rheolwr Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys: “O ystyried maint a natur wledig Powys, a swm y gwaith a wnawn ar hyn o bryd, rydym wedi datblygu un o’r gwasanaethau iechyd a lles anifeiliaid mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud y gwaith pwysig yma a bydd ein swyddogion nid yn unig yn darparu cyngor a chymorth proffesiynol angenrheidiol i rai yn ardal Blaenau Gwent ond hefyd yn ymchwilio i unrhyw dorcyfraith o ran iechyd anifeiliaid ac yn gweithredu’n briodol.”

Dywedodd David Thompson, Pennaeth Tai ac Iechyd Amgylcheddol Cyngor Blaenau Gwent: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth ar adeg pan mae cydweithredu’n fwy pwysig nag erioed. Bydd swyddogion o’r ddau gyngor yn sicrhau bod y trosglwyddo’n cael ei reoli mor ddi-fwlch â phosibl er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol yn y ddwy fwrdeistref.”

Dywedodd Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr CLlLC: “Mae CLlLC yn croesawu’r cam cydweithredol yma sy’n cael ei gymryd gan gynghorau Powys a Blaenau Gwent i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles anifeiliaid. Am beth amser nawr, mae cynghorau yng Nghymru wedi bod yn cydweithio i wella’r gwasanaethau ac i fod yn fwy effeithlon, a dyma enghraifft arall o sut y gall cydweithredu ddod â manteision i gynghorau yn ystod yr adeg ariannol anodd sydd ohoni.

“Mae’r CLlLC wedi lansio Collaboration Compendium (crynodeb cydweithrediad) ar y we yn ddiweddar – offeryn byw sy’n cynnwys gwybodaeth am brosiectau ar y cyd ac enghreifftiau o gydweithredu ar hyd a lled Cymru. Gellir defnyddio’r compendium i chwilio am brosiectau cydweithredol arall rhwng gwahanol awdurdodau yng Nghymru, ymhob rhan o’r wlad, ac ymhob maes gwasanaeth.”


RSS