A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Ddiweddaraf

17.04.12 11:17 Age: 1 yrs

Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn derbyn yr anrhydedd uchaf

Logo

.

Mae Ysgol Uwchradd Y Trallwng wedi derbyn yr anrhydedd uchaf mewn twrnamaint chwaraeon a ysbrydolir gan y Gemau Olympaidd.

Cynhaliwyd twrnameintiau hoci dan 14, 16 a 18 oed Ysgolion Uwchradd Powys yn ddiweddar, gydag Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori oedran.

Yn y gêm dan 14 oed, llwyddodd Y Trallwng i guro tîm o Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Yn y categori dan 16 oed, Ysgol Uwchradd Crughywel oedd y buddugwyr. Llwyddodd Y Trallwng i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y categori dan 18 oed, ond Coleg Crist yn Aberhonddu oedd y buddugwyr.

Y gystadleuaeth yw’r digwyddiad diweddaraf i’w gwblhau yn ‘Gemau Powys Games’ - cyfres o gystadlaethau a ysbrydolir gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn cystadlu am fedalau mewn 11 o ddigwyddiadau chwaraeon Olympaidd a Phara Olympaidd. Yn debyg iawn i’r gemau Olympaidd, bydd y cystadleuwyr sydd naill ai’n dod yn gyntaf, ail neu drydydd yn derbyn pwyntiau a fydd yn mynd tuag at dabl medalau cyffredinol.

Dywedodd Gareth Oldham, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys: "Nod y syniad tu cefn i Gemau Powys Games yw arwain at adfywiad chwaraeon cystadleuol yn ysgolion uwchradd Powys, gan ddarparu etifeddiaeth briodol i’r sir wedi Gemau Olympaidd Llundain 2012.

"Rydym yn llongyfarch Ysgol Uwchradd Y Trallwng am ennill y gystadleuaeth ddiweddaraf. Mae hoci yn parhau i fynd o nerth i nerth ym Mhowys ac rydym yn diolch i’r athrawon Addysg Gorfforol am gefnogi’r gêm a helpu i ddatblygu chwaraewyr ieuainc."


RSS