A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Eitem Newyddion Ddiweddaraf

15.03.12 13:25 Age: 1 yrs

Beicwyr modur yn cael eu hannog i gario cerdyn damweiniau

Cerdyn Damweiniau

Un o’r Cardiau Damweiniau sydd ar gael o Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor ar gyfer beicwyr modur sy’n byw yn y sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn annog beicwyr modur yn y sir i gario cerdyn sy’n cynnwys gwybodaeth sydd â’r gallu i achub bywydau petai damweiniau yn digwydd.

Mae’r Cerdyn Damweiniau yn cynnwys manylion personol megis enw, dyddiad geni ac alergeddau y gall y gwasanaethau brys eu defnyddio petai argyfwng. Mae’r cardiau ar gael gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor.

Gellir gosod y cerdyn yn leinin helmed y beiciwr modur a bydd y gwasanaethau brys yn gwybod ei fod yn bresennol gyda dot gwyrdd bychan a leolir ar gornel miswrn yr helmed.

Mae’r fenter ddiweddaraf hon yn cyd-fynd â’r posteri gwybodaeth melyn ‘Reidiwch yn Ofalus’ sy’n cael eu dosbarthu ar hyd ochrau’r ffyrdd yn y sir.

Ar gefn pob poster, sy’n atgoffa beicwyr modur a gyrwyr ceir fel ei gilydd am ddiogelwch ar y ffyrdd, mae sticer cyfeirnod grid a gellir rhoi’r cyfeirnod i’r gwasanaethau brys i’w helpu nodi’r union ffordd petai damwain neu argyfwng – gan ostwng yr amser o bosibl a gymerir i’ch cyrraedd. Mae enw a rhif y ffordd ar gael er gwybodaeth hefyd.

Dywedodd Alyson Broome, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor: “Mae ffyrdd Powys yn boblogaidd iawn gyda beicwyr modur ond un mater a godwyd gan y gwasanaethau brys oedd y byddai’r beicwyr modur yn cwrdd mewn un lle, gyrru ymlaen i rywle arall, heb wybod enw’r naill na’r llall o anghenraid.

"Mae’r cardiau yn helpu i adnabod unigolyn yn gyflym ac unrhyw hanes meddygol petai argyfwng. Mae’n syniad mor syml, a grëwyd yn wreiddiol gan y Clwb Beiciau Modur Ambiwlans, ond mae’n bosibl y gall wneud y gwahaniaeth rhwng damwain ddifrifol a damwain angheuol.

Am Gerdyn Damweiniau am ddim, cysylltwch â’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01597 826979 neu anfonwch e-bost gyda’ch enw a’ch cyfeiriad at diogelwch.ffyrdd@powys.gov.uk


RSS