Mae Cyngor Sir Powys i wrthwynebu’n ffurfiol i ddau gais am ffermydd gwynt mawr a fydd yn destun penderfyniad gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
Heddiw (13 Mawrth), cytunodd Cabinet y Cyngor y byddai’n gwrthwynebu ceisiadau am ffermydd gwynt yn Llanbadarn Fynydd ger Y Drenewydd a Charnedd Wen, Llanbrynmair.
Mae’r ddau gais yn ymwneud â datblygiadau sy’n cynhyrchu dros 50mw o drydan, a bydd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn penderfynu arnynt, gyda’r cyngor sir fel ymgynghorai statudol. Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod cynllunio ar bob cais o dan 50 mw.
Mae penderfyniad y Cabinet i wrthwynebu i’r ddau gais am ffermydd gwynt yn debygol o arwain at ymchwiliad cyhoeddus.
Roedd swyddogion wedi argymell gwrthwynebu i’r ceisiadau – cais Llanbadarn Fynydd oherwydd materion priffyrdd a chais Carnedd Wen oherwydd ei effaith ar yr amgylchedd a materion priffyrdd.
Ar ôl pwyso a mesur yr adroddiadau, ychwanegodd y Cabinet resymau ychwanegol dros wrthwynebu i’r ceisiadau.
Yn eu plith, y dirwedd annerbyniol ac effaith weledol y ceisiadau, gan gynnwys yr effaith andwyol ar dwristiaeth a ffactorau economaidd eraill.
Diffyg sicrwydd ar p’un ai fyddai’r datblygiadau arfaethedig yn cyfrannu at, neu’n golygu bod angen datblygu’r seilwaith yn sylweddol a allai arwain at effaith andwyol pellach ar y dirwedd, gan gynnwys lles gweledol, economaidd am amgylcheddol yr ardal.
Bydd y Cabinet hefyd yn gwneud cais am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda chostau ymchwiliadau cyhoeddus pellach.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Michael Jones: “Mae’r Cabinet wedi ystyried adroddiadau ar y ddau gais yn ofalus gan gytuno’n unfrydol i gefnogi’r argymhellion a gwrthwynebu’n ffurfiol i’r cynigion.
“Rydym yn gwrthwynebu’r ddau gais oherwydd eu heffaith ar amgylchedd y sir, yr effaith ar y seilwaith briffyrdd a gan nad ydynt yn diwallu nifer o bolisïau cynllunio sirol a chenedlaethol .”
Mae disgwyl i’r Cabinet ymateb i bedwar cais fferm wynt gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd erbyn diwedd mis Medi.
Wythnos diwethaf (6 Mawrth) gwrthododd Pwyllgor Cynllunio’r cyngor sir gais am fferm wynt 11 tyrbin yn Waun Garno, Llawryglyn, ger Carno.