English

Nofio

Mae nofio'n weithgaredd iach y gall pobl o bob oed a gallu ei fwynhau ac mae'n cynnig amrywiaeth o fanteision

nofio

Mae nofio'n defnyddio'r corff cyfan, yn cynyddu cryfder y cyhyrau, eich stamina, cylchrediad y gwaed a chryfhau'r galon. Mae'n sgil hanfodol sy'n helpu i gadw plant yn ddiogel yn y dwr neu yn ei ymyl.

Yng Nghanolfan Hamdden y Flash, ynghyd â Sesiynau Nofio Cyhoeddus, byddwn yn cynnig Sesiynau Nofio Lôn Cyhoeddus a Sesiynau i Oedolion yn Unig. Neu gallech roi tro ar Ganwio, Erobeg Dwr, neu ymuno â Chlwb Nofio'r Siarcod.

Bydd y plant wrth eu bodd â Sesiynau Hwyl Gwyllt, sy'n cynnwys y Llithren, Jacuzzi a Dwr Gwyllt.

Byddwn hefyd yn darparu Gwersi Nofio a Chyrsiau i Achubwyr Bywyd a gweithgareddau eraill i blant iau yn y pwll yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd y Tudalennau sy'n Dilyn yn darparu rhagor o wybodaeth