
Dyma’r unig gyfres o ddarluniau a phaentiadau o’r math yma a wnaed erioed, sy’n dangos datblygiad unigolyn dros bum deg dau o flynyddoedd a newid o ieuenctid i ddengmlwydd a thrigain.
Cyfarfu Ivor Davies a Roy Powell fel myfyrwyr yng Ngholeg Celf Caerdydd yn ystod dosbarth ail flwyddyn pan oedd grwpiau o bedwar myfyriwr yn tynnu lluniau o’i gilydd ar bapur brown. Bu un ohonynt yn darlunio’r llall byth ers hynny. Maent yn paentio tirluniau neu ddarluniau bywyd llonydd gyda’i gilydd yn aml, ond mae Ivor yn teimlo mwy o atyniad tuag at ddarlunio symudiadau ei ffrind mewn perthynas â’i nodweddion a’r ffordd y bydd yn syllu, yn hytrach na’i nodweddion yn unig. (Nid yw Roy yn darlunio Ivor)
Nid yw’r rhain yn bortreadau nac yn bortread o Dorian Gray. Dyma ddelweddau o arlunydd wrth ei waith trwy gydol ei fywyd, sy’n cael eu creu a’u hail-greu gan arlunydd arall. Nid y bwriad ychwaith oedd i’r darluniau esblygu’n gyfres ar unrhyw adeg.
Heblaw am gerfiadau cynharach mewn carreg, mae Powell wedi gwneud cynnydd cyson fel arlunydd gyda dull o barchu a myfyrio am natur sy’n debyg i arddull Cézanne.
Mae Davies, ei gydfyfyriwr, wedi defnyddio nifer o gyfryngau gan gynnwys cerfluniaeth mewn amrywiaeth o ddeunyddiau, cyfosodiadau a pherfformiadau. Mae ganddo ddiddordeb mewn pob agwedd o gelfyddyd gan gynnwys ei hanes, ac mae wedi cyhoeddi ac arddangos dros y blynyddoedd ac wedi casglu archifau o ddeunyddiau.
Dim ond yn ddiweddar y cafwyd y syniad ar gyfer yr arddangosfa hon. Ychydig iawn o’r gwaith sydd ar werth gan fod y cyfan yn rhan o un hanes personol, er efallai y bydd yn bosibl prynu’r gyfres gyfan ar un tro.

Mae’r tirlun mynegiannol ardderchog – hyd yn oed eiconig – hwn yn waith sydd o bwys mawr i Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Mae Ystradgynlais, hen dref gweithfeydd haearn a phyllau glo de Sir Frycheiniog (de Powys erbyn hyn), yn rhan o ardal yr Amgueddfa. Yn y gwaith hwn, gwelir rhan o ganol y dref o amgylch y ‘Pen-y-Bont Inn’ a phont Tawe gerllaw. Bu Josef Herman yn byw yn Ystradgynlais rhwng 1944 a 1955, a bu’n byw mewn ystafelloedd yn y ‘Pen-y-bont Inn’ yn ystod pedair blynedd gyntaf ei gyfnod yn y dref. Roedd ganddo gysylltiad cryf a’r glowyr, eu cymuned a’u hamgylchedd. “Roeddwn yn hapus iawn yn y ‘Pen-y-bont Inn’,” ysgrifennodd yn ei ddyddiadur ar 31 Mai 1948, “ac rwy’n eithaf trist fy mod yn gadael.”
Bu Ystragynlais yn ysbrydoliaeth fawr i Herman, a daeth yn gartref i’w ddychymyg. Mae Pen-y-bont, Ystradgynlais wedi’i beintio yn y cyfnos, hoff adeg Herman o’r dydd, pan fo golau cynnes “yn cochi waliau cerrig y bythynnod ac amlinelliad y coed llwm,” (dyfyniad gan Herman sy’n ymddangos ar dudalen 84 o fywgraffiad Nini Herman, Josef Herman; A Working Life). Mae pont Tawe yn cofio digwyddiad pwysig yn esblygiad dychymyg Herman, pan gafodd ei daro gan effaith glöwyr yn croesi’r bont yn erbyn awyr a oedd yn tywynnu. Ysgrifennodd fod y ddelwedd hon wedi ei “syfrdanu am flynyddoedd gyda’i chymysgedd o dristwch a mawredd, a daeth yn ffynhonnell i fy ngwaith am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Astudiodd Michael Strang gelfyddyd gain yn Llundain rhwng 1968 a 1973. Treuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Gelf Wimbledon a thair blynedd yn Camberwell. Mae wedi bod yn arlunydd proffesiynol ers hynny, gan fyw mewn amrywiol leoedd gyda de Cymru yn un lle ymysg y rheini.
Mae hudoliaeth a chyfriniaeth yr ardal wedi’i gyfareddu erioed, ac ymdrech yw’r grwp o luniau, a elwir ganddo yn ‘Gasgliad Cymreig’, i ddal yr hudoliaeth ddwys mewn lliw sy’n treiddio drwy bob rhan o’r wlad hynafol hon.
Mae’r tirwedd creithiog o amgylch Bryn Llanelli, Brynmawr a Blaenafon, a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer lluniau megis ‘Coal tips towards the Sugar Loaf, sunrise’ wedi mynd i ryw raddau, gan ychwanegu elfen hanesyddol i rai o’i weithiau cynharaf a oedd yn gwbl anfwriadol.
Mae’r darluniau hyn a’r darluniau diweddarach a grëwyd mewn ymateb i leoedd megis Llanfrynach ac Aberhonddu yn ymestyn dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hunain. Mae Michael wrth ei fodd eu bod yn cael eu harddangos fel grwp yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog.
‘Rhan o’m taith bywyd wedi’i weu i mewn i baent’
Michael Strang, Mawrth 2005


Mae arddangosfa fawr yr haf yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog yn cynnwys gweithiau o gasgliad celf pwysig Sir Frycheiniog, ynghyd â ffotograffau nodedig Bernard Mitchell o artistiaid yr ardal. Mae Bernard Mitchell wedi arbenigo mewn tynnu lluniau artistiaid ac awduron Cymru yn yr amgylchedd lle maent yn byw a gweithio. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae’r bobl y mae’n tynnu lluniau ohonynt yn ymwneud â’r lle sydd o’u cwmpas. Mae nifer o’r ffotograffau hyn wedi’u comisiynu’n arbennig gan Ymddiriedolaeth Gelf Amgueddfa Brycheiniog, a chânt eu harddangos yma am y tro cyntaf.
Dechreuodd prosiect Bernard Mitchell i gofnodi artistiaid Cymru yn eu cartrefi a’u stiwdios yn 1966. Mae’r prosiect wedi parhau mewn modd ysbeidiol ers hynny, gan ddibynnu’n fawr ar gyfleoedd ariannu. “Y man cychwyn,” cofiodd yr hanesydd celf Peter Lord, “oedd prosiect blwyddyn olaf yng Ngholeg Celf Berkshire. Bwriad y prosiect hwn oedd dogfennu’r cylch o beintwyr, awduron a cherddorion oedd â chysylltiad â Dylan Thomas – y genhedlaeth hynod o Abertawe a oedd yn cynnwys Alfred Janes, Vernon Watkins a Daniel Jones. Cafodd y profiad o dynnu llun Ceri Richards argraff ddwys iawn ar Mitchell. Fodd bynnag, nid oedd modd arddangos na chyhoeddi canlyniadau ei waith am flynyddoedd lawer.” O’r diwedd, yn 1996, derbyniwyd cymorth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i wneud hyn.
Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth Gelf Amgueddfa Brycheiniog yn falch o fod wedi gallu cefnogi gwaith parhaol Bernard Mitchell ar y prosiect hwn, fel rhan o ddiddordeb ehangach mewn cofnodi agweddau o’r olygfa gelf weledol ranbarthol. Cyn hyn, nid oedd Mitchell wedi tynnu lluniau artistiaid Sir Frycheiniog a’r ardal o’i chwmpas fel rhan o’i waith yn tynnu lluniau artistiaid Cymru. Mae’r arddangosfa’n dangos yn glir fod y bwlch hwn wedi’i lenwi erbyn hyn.

Trwy hanes, mae planhigion wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl. Maent yn ein bwydo ni a’n hanifeiliaid, maent yn rhoi dillad i ni ac yn ein cynhesu. Am ganrifoedd, maent wedi darparu meddyginiaeth i ni. Yn aml, dyma’r unig fath o driniaeth yr oedd pobl yn gallu ei fforddio.
Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi anghofio pa mor bwysig yr oedd planhigion meddygol yn y gorffennol. Lle bynnag yr ydym yn edrych, rydym yn gweld planhigion, rhai deniadol, a rhai hyll. Ond a ydym yn gwybod beth yr ydym yn edrych arno mewn gwirionedd?
Mae’r arddangosfa hon yn cyfuno lluniau dyfrlliw Mary Davidona de Winton o blanhigion Sir Frycheiniog â gwybodaeth ar ddefnydd planhigion meddyginiaethol trwy hanes. Bydd yna blanhigion go iawn i ymwelwyr eu cyffwrdd a’u harogli, a bydd cwis perlysiau yn rhoi cyfle iddynt brofi eu gwybodaeth am blanhigion.
Nod yr arddangosfa yw cyflwyno i ymwelwyr y dulliau amrywiol o ddefnyddio planhigion, ac efallai y bydd yr arddangosfa hefyd yn eu helpu i adnabod rhai o’r planhigion sy’n tyfu wrth ymyl y ffordd.

2005, caiff CLARKS, yr adwerthwyr o Aberhonddu eu pen-blwydd yn 100 oed. Sefydlwyd y busnes teuluol yn 1905 gan John Clark, ac mae wedi parhau o fewn y teulu hyd heddiw, gyda phedair cenhedlaeth olynol o deulu’r Clark yn ei reoli.
Ganed John Clark, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Jack Clark yn 1881, y cyntaf o wyth plentyn Thomas Clark, garddwr yn Penoyre House, Batel, Aberhonddu. Roedd Jack yn aelod gweithgar o gymuned Aberhonddu a ddechreuodd ar ei fywyd fel ffotograffydd. Wedi teithio’r sir fel ffotograffydd tymhorol a thafleisydd, sefydlodd ei fusnes ffotograffiaeth yn Aberhonddu yn 1905. Parhaodd i weithio yn y busnes trwy gydol ei fywyd tan ei farwolaeth yn 1975 yn 95 mlwydd oed.
Mae’r busnes wedi datblygu trwy gydol y 100 mlynedd. Ynghyd â ffotograffiaeth, roedd y busnes yn gwerthu papur ysgrifennu, yn fframio llunio, gwerthu anrhegion, teganau a deunyddiau i ystafelloedd babanod.
Ar ddiwedd y 50au, ymunodd Vernon, mab Jack â’r busnes. Yn 1968 dechreuodd Andrew, mab Vernon ar ei yrfa ac yn 1998, cwblhaodd Ben, mab Andrew bedair cenhedlaeth o ddynion busnes yn y teulu. Vernon, Andrew a Ben sy’n parhau i reoli busnes Clarks hyd heddiw.
Mae’r arddangosfa hon yn cofnodi ac yn dathlu cyflawniad pedair cenhedlaeth o fewn busnes teuluol bychan ond sy’n ehangu o fewn tref wledig Aberhonddu yng nghanolbarth Cymru dros y 100 mlynedd diwethaf.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffau gwreiddiol o’r busnes ac Aberhonddu trwy gydol y 100 mlynedd hynny. Ynghyd â chamerâu gwreiddiol Jack, mae ffilm sinema cynnar, cynnyrch papur ysgrifennu amrywiol, fframiau lluniau a theganau sydd wedi bod yn enaid i’r busnes teuluol hwn.

Arlunydd sydd wedi’i hudo gan arlunio yw Pip Woolf. Mae ganddi ddiddordeb mewn ymchwilio i ddeunyddiau arlunio anarferol ac mae ar hyn o bryd yn arbrofi gyda mwynau sy’n bodoli’n naturiol. Mae ei diddordeb mewn ymchwilio i’r broses o arlunio ei hun nid yn unig yn fodd i fynegi ei hunan ond hefyd yn gyfrwng i ddeall ei hunan a’i hamgylchfyd.
Tra bod Pip Woolf yn tynnu delweddau cynrychioliadol – ac mae’r llun o’r cerddor sacsoffon jazz Lol Coxhill yn enghraifft drawiadol – ei thuedd yw i gynhyrchu gwaith mwy haniaethol. Fel y dywedodd Barbara Hepworth, sydd hefyd wedi cynhyrchu gwaith cynrychioliadol ar brydiau; “Mae gweithio’n haniaethol yn dueddol o ryddhau eich personoliaeth a hogi eich craffter, nes bod yr archwiliad o fywyd yn ei gyfanrwydd neu’r bwriad mewnol sy’n eich cymell yn cael effaith ddofn...”
Tuedd Pip Woolf yw mabwysiadu agwedd thematig. Yn ei gwaith cynharaf bu’n ymchwilio ei hymateb i gerddoriaeth. Mae’r paralelau rhwng cerddoriaeth a chelf wedi swyno artistiaid haniaethol o Kandinsky ymlaen. Mewn cyfres o ddarluniau gwych o ganol yr 1960au cafodd Brenda Chamberlain ei llwyrfeddiannu gan yr un thema. Ymddangosodd uchafbwynt ymateb Pip Woolf i gerddoriaeth glasurol a jazz mewn arddangosfa o’r enw Rare Music.
Yn yr arddangosfa Marking a Point gwneir ymholiadau gweledol Pip Woolf mewn ymateb i thema wahanol; y deinameg cymhleth rhwng gwleidyddion sydd wedi llwyr ymgolli mewn dadl. Mae ei gwaith wedi datblygu o’i diddordeb yn yr agweddau gweledol sy’n ymwneud â phobl mewn grym. Mae’r prosiect presennol hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu gwleidyddol boed os yw hynny’n gyfathrebu rhwng pobl a rhwng grwpiau. I’r perwyl hwn bu hi’n treulio llawer o amser yn astudio ac yn tynnu lluniau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn sesiwn.
Bydd y sawl sy’n disgwyl gweld delweddau o wleidyddion enwog yng ngwaith yr artist yn cael eu synnu fodd bynnag. Gweithiau haniaethol yn bennaf yw’r rhain unwaith eto. O’r symbylu gweledol – ac ymateb i – ddigwyddiadau yn y siambr trafod mae Pip Woolf wedi creu gweithiau o ffurfiau, llinellau, lliw, ton a gweadau gan ddefnyddio’r deunyddiau y mae wedi eu canfod yn bennaf. Mae’r digwyddiadau sydd wedi ysgogi’r gweithiau hyn yn amrywio o eiliadau o drafodaeth danllyd i’r rheini o bylni di liw, ond ym mhob achos, mae ei dychymyg gweledol wedi’i lyncu’n llwyr gan y rhyngweithio rhwng y sawl sy’n siarad ac yn gwrando. Mae hyn wedi arwain at gorff cyfareddol o waith sy’n amrywio o frasluniau bychain digymell i ddarluniau mawr sydd wedi’u datblygu yn y stiwdio. Dyma agwedd wahanol iawn ar ddemocratiaeth ar waith.
“Un o’r agweddau mwyaf pwerus ar arlunio haniaethol yw ei allu i gyfleu’r hyn nad yw iaith yn gallu ei ddweud”, Sue Hubbard yn yr ‘Independent, 11 Gorffennaf 2005
Mae ‘Marking a Point’ yn agor ar 9 Medi ac yn parhau tan 5 Tachwedd 2005