
Dere i ddathlu dy ben-blwydd yn ein lle chwarae meddal, Den Dewi. Mae'n lle chwarae hwyl a diogel i blant o bob oed (heb fod yn fwy na 148cm). Mae'r parti'n cynnwys llogi'r ystafell am awr a hanner ac ymweliad gan Dewi ei hun. Mae'r ystafell yn cynnwys byrddau a chadeiriau fel bod modd cymysgu amser chwarae ac amser bwyd fel y mynnwch.
Â
Dim mwy na 30 o blant ar gyfer y parti hwn.
Llogi'r ystafell barti am awr a hanner.
Pris y Parti = £55
Â

Beth am gael parti 'hedfan' ar Gastell Gwynt Hwyl Dilwyn. Mae'n gastell mawr coch sy'n mesur 5 x 5m. Bydd y cyfan wedi'i osod yn y neuadd chwaraeon fel y gallwch gymysgu bwyd a chwarae. Gyda'r parti hwn, fe gewch awr o hwyl dan oruchwyliaeth yn y castell gwynt, a gallwch rannu'r amser hwn fel y mynnwch. Yr awr gyfan gyda'i gilydd, dwy sesiwn o hanner awr ayb.
Â
Dim mwy na 30 o blant ar gyfer y parti hwn.
Mae'r parti'n cynnwys llogi'r neuadd am ddwy awr gydag awr dan oruchwyliaeth yn y castell gwynt.
Pris y Parti = £55

Gadewch i ni wneud y gwaith trwy drefnu parti gemau. Bydd aelod o'n staff yn trefnu'r gemau a'r gweithgareddau yn y neuadd chwaraeon. Gallwn drefnu amrywiaeth o gemau, yn dibynnu ar oedran a gallu'r plant, neu geisiadau arbennig. Mae'r parti hwn yn addas i blant o bob oed.
Â
Dim mwy na 30 o blant i'r parti hwn.
Mae'r parti'n cynnwys llogi'r neuadd am ddwy awr ac awr o weithgareddau wedi'u trefnu.
Pris y Parti = £55