A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd, yn unol â Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, i gadw ei dir heb sbwriel a gwastraff, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol.
Mae'r tir perthnasol yn cynnwys priffyrdd cyhoeddus, meysydd parcio, mannau mwynderau a thir tai sy'n eiddo i'r Awdurdod.
Mae'r holl dir hwnnw wedi'i roi mewn categoriau Parthau glanhau yn unol â ‘Chôd Ymarfer Sbwriel a Gwastraff' a gyflwynwyd yn unol ag Adran 89 of y Ddeddf. Bydd pob Parth felly'n cael ei lanhau mewn modd addas, boed hynny'n ddyddiol, wythnosol, misol ayb.
Yn ymarferol, mae'r gwasanaeth yn cynnwys:-
ysgubo troedffyrdd a sianeli â llaw neu â pheiriant
codi sbwriel mewn ardaloedd mwynderau a thir arall
gwacau biniau sbwriel a biniau baw cwn
cael gwared ar ddeunydd a dipiwyd yn slei
cael gwared ar garcasau anifeiliaid
cael gwared ar bosteri a graffiti
glanhau arosfannau bws yr awdurdod
Caiff ansawdd y glanhau ei fonitro'n gyson, a'i gofnodi'n unol â gofynion dangosydd perfformiad cenedlaethol STS/001.Â
Cliciwch ar un o'r dolenni isod i roi gwybod am broblem yn ymwneud â pha mor lân neu daclus yw'n strydoedd:
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma