A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r gofrestr yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am blant ym Mhowys sydd ag anableddau. Gall rieni ddewis os ydynt am i'w plant gael eu cynnwys ar y gofrestr, a bydd y wybodaeth ar y gofrestr yn helpu i sicrhau'r gofal a'r cyngor sy'n gweddu orau i'r plentyn. Hefyd, bydd hyn yn helpu tuag at gynllunio cyfleusterau a gwasanaethau i blant sydd ag anghenion arbennig yn y dyfodol.
Â
Yn ôl Deddf Plant 1989, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gadw cofrestr o blant anabl yn eu hardal. Mae'n gofrestr yn cynnwys plant a phobl ifanc ym Mhowys o'u genedigaeth tan eu bod yn 21 mlwydd oed. Bydd y wybodaeth ar y gofrestr yn ein helpu ni i gynnig gwell gwasanaeth yn y dyfodol a byddwn yn gallu anfon gwybodaeth atoch am bynciau sy'n berthnasol i chi ac i anghenion eich plentyn.
Os hoffech i ni gynnwys enw eich plentyn, cysylltwch â'r tîm perthnasol isod:
Tîm Plant sydd ag Anableddau (Gogledd)
Y Parc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PL
Ffôn: (01686) 617520
Tîm Plant sydd ag Anableddau (De)
Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian,
Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
Ffôn: (01874) 624298
Ffacs: 01874 615973