Etifeddiaeth Adeiladwyd Powys
Etifeddiaeth Adeiladwyd Powys

Taflenni Canllaw

Mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig yn llunio cyfres o daflenni cyngor wedi'u bwriadu ar gyfer perchnogion adeiladau hanesyddol neu'r sawl sy'n byw mewn ardaloedd hanesyddol. Mae'r taflenni yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd am yr hyn y mae'n ei olygu i ofalu a byw gyda threftadaeth adeiledig Powys.

I lawrlwytho copiau dwyieithog o'r taflenni hyn, cliciwch ar y dolenni isod. Os hoffech dderbyn copiau caled, cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig, neu eu codi o lyfrgelloedd lleol a Mannau Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor (y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Hawl Adeilad Rhestredig

1.2 M

Hawl Ardal Gadwraeth

377 K

Cynnal a Chadw Adeiladau Hanesyddol

1.1 M

Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol

479 K

Y bwriad yw cynhyrchu rhagor o daflenni yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw faes pwnc/materion penodol yr hoffech i'r taflenni hyn eu trafod, cysylltwch â ni gyda'r manylion.

Cyhoeddiadau

Strategaeth Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Powys 2010 - 2015

Mae'r Strategaeth Treftadaeth Adeiledig wedi cael ei drafftio i ddiffinio cyfrifoldebau Cyngor Sir Powys mewn perthynas â'r amgylchedd hanesyddol, sef treftadaeth adeiledig yn benodol, ac yn nodi gweledigaeth ac amcanion y Tîm Treftadaeth Adeiledig.

Ein Gweledigaeth:

    Darparu gwasanaethau arbenigol o ansawdd sy'n angenrheidiol i gwsmeriaid, er mwyn sicrhau diogelu, gwella a gwerthfawrogi'r dreftadaeth adeiledig a hynodrwydd lleol Powys a sicrhau asedau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu a rheoli'r amgylchedd hanesyddol ac mae'r ddogfen fewnol hon yn bennaf yn nodi'r pwyntiau gweithredu sy'n cynorthwyo wrth ddiffinio'r blaen raglen waith. Mae'r strategaeth yn edrych ar yr asedau presennol ac yn archwilio'r amcanion cenedlaethol a lleol y gellir eu diwallu trwy nodi'r hyn sydd angen ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf.

I lawr lwytho copi o'r Strategaeth Treftadaeth Adeiledig, cliciwch ar y ddolenni isod.

Built_Heritage_Strategy_Web_cy.pdf

1.0 M

(copy 1)

Isod, mae adroddiad cynnydd ar y flwyddyn gyntaf o weithredu Strategaeth Treftadaeth Adeiledig Powys.

Adroddiad cynnydd 2011

103 K

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Strategaeth Treftadaeth Adeiledig, cysylltwch â ni gyda manylion.

Astudiaeth achos ...



Aden Chambers, South Crescent

Aden Chambers before and after restoration
Aden Chambers ar ôl ei adfer
Darllen rhagor