A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Amdanom Ni

Amdanom Ni

Mae Gwasanaeth Maethu Powys yn dîm maethu profiadol yr awdurdod lleol.  Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc lleol dros y cyfnod nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd eu hunain.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gosod plant gyda'r gofalwyr sy'n gallu darparu  orau ar gyfer anghenion y plant, yn ogystal â darparu amgylchedd sefydlog ac a fydd yn meithrin y plant. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Timoedd Plant er mwyn sicrhau bod y plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yn cael eu cefnogi a'n bod yn gwrando arnynt.

Mae'r Tim yn gyfrifol am Bowys gyfan ac yn gweithio o ddwy swyddfa - Aberhonddu a'r Drenewydd ac mae'n darparu lefel uchel o gymorth i Ofalwyr Maeth ar draws y sir.

Mae'r Tim Maethu yn cynnwys:

  • Rheolwr Ardal – Uwch reolwr gyda chyfrifoldeb am Faethu, Mabwysiadu a Phlant ag Anableddau
  •   Rheolwr Tim
  •   8 Gweithiwr Cymdeithasol sy'n Goruchwylio
  •   Swyddog Lleoliadau
  •   Gweithiwr Cymorth Lleoliadau
  •   Swyddog Cymorth i Blant
  •   Aseswr Risgiau
  •   Swyddog Cymorth a Chydymffurfio
  •   Swyddog Marchnata a Recriwtio

Contact

Fostering Team (North)
The Park,
Newtown SY16 2PL
Tel: (01686)  617520

Fostering Team (South)
Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way,
Brecon, LD3 7HR
Tel: (01874) 614030

 

RSS