A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r drwydded hon ar gyfer gweinyddu Priodasau Sifil a chreu Partneriaethau Sifil, a seremoniau anstatudol eraill fel y byddant yn cael eu cyflwyno ym Mhowys. Mae'r drwydded yn ddilys am dair blynedd.
Gallwch weld rhestr o safleoedd sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer hyn trwy ddefnyddio'r dolenni ar y chwith, neu trwy glicio yma.
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.
Neu, gellir cael ffurflen gais yn defnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais a chanllawiau trwy ddefnyddio'r dolenni isod:
|
|
58 K |
|
|
|
46 K |
Dylid anfon y ffurflenni cais at
Cynrychiolydd y Swyddog Priodol,
Gwasanaeth Cofrestru Powys,
Y Gwalia,
Ffordd Ithon,
Llandrindod,
Powys
LD1 6AA,
Y Deyrnas Gyfunol.
Dylid anfon y ffi (nas oes modd i'w had-dalu) gyda'r ffurflen gais, ynghyd â thri chopi o gynlluniau o'r safle gyda'r ystafell(oedd) wedi'u hamlygu ac Asesiad Perygl Tân cyfredol.
Ar ôl derbyn y dogfennau wedi'u llenwi, bydd hysbysiad swyddogol yn cael ei roi yn y wasg leol yn dweud fod cais am drwydded. Yna, bydd gan y cyhoedd 21 diwrnod i wrthwynebu rhoi trwydded.
Bydd eich Asesiad Risg Tân yn cael ei anfon i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru i gael ei sylwadau.
Bydd Cynrychiolydd y Swyddog Priodol, neu ei gynrychiolydd, yn archwilio'r safle i weld os yw'n addas.
Os nad oes gwrthwynebiad, os yw'r archwiliad yn dderbyniol ac os na bydd sylwadau anffafriol gan yr Awdurdod Tân, bydd trwydded yn cael ei rhoi am gyfnod o 3 blynedd o ddyddiad ei chyflwyno.
Â
Mae er budd y cyhoedd i Gyngor Sir Powys brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatau. Os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch ddefnyddio'r manylion ar ochr dde'r dudalen i wneud hyn.
Sylwch y gall y broses wneud cais gymryd hyd at wyth wythnos.
Cysylltwch â Rheolwr Gwasanaeth Cofrestru Cyngor Sir Powys yn y lle cyntaf. Os na fydd hynny'n gweithio, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredninol yn gallu rhoi cyngor.
Yn 2009/10 y ffi yw £750.00 am gyfnod o dair blynedd. Bydd y ffi yn cael ei hadolygu'n flynyddol.
Os oes gennych chi fel unigolyn preifat gwyn am fusnes sy'n gweithredu o dan y drwydded hon, cysylltwch â Rheolwr Gwasanaethau Cofrestru Cyngor Sir Powys yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr fyddai orau (gyda phrawf iddo gael ei ddosbarthu). Os nad yw hyn wedi gweithio, os ydych yn byw yn y DG, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn cynnig cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DG, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DG.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.
Cais am drwydded i ddefnyddio safle ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil
Cais i newid trwydded i ddefnyddio safle ar gyfer priodadau sifil a phartneriaethau sifil
Deddf Partneriaethau Sifil 2004