A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r Gwasanaeth Maethu a'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn gweithredu fel dau dîm ar wahân dros y sir gyfan. Mae'r timau'n gweithio o ganolfannau yn Aberhonddu a'r Drenewydd. Bydd y timau'n darparu ac yn rheoli gwasanaethau ac adnoddau sy'n cael eu dosbarthu'n uniongyrchol gan yr Adran. Er enghraifft, lleoliadau maeth i Blant sy'n Derbyn Gofal, gofal seibiant a mabwysiadu.
Bydd y Tîm Mabwysiadu hefyd yn darparu cwnsela i bobl sy'n chwilio am eu rhieni naturiol.
Mae'r timau'n gyfrifol am recriwtio ac am gefnogaeth barhaus gofalwyr maeth a mabwysiadwyr sy'n gallu diwallu anghenion amrywiol plant a allai fod ag angen gofal maeth dros dro, lleoliadau parhaol neu fabwysiadu.
Ystyr Maethu yw bod plentyn yn dod i'r cartref ar frys, naill ai ar sail tymor byr neu dymor hir, ac mae yna lwfans wythnosol i dalu costau gofalu am blentyn. Mewn sefyllfa faethu, bydd gan yr Awdurdod Lleol neu'r rhiant/rhieni naturiol gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac mae'n bosibl y bydd y rhiant/rhieni yn ymwneud â chyswllt parhaol, a gwneud penderfyniadau ar gyfer y plentyn.
Mewn rhai sefyllfaoedd, yn enwedig lle bo gweithgareddau yn mynd ymlaen yn y llys, gellir ystyried cymeradwyo rhai sydd am fabwysiadu plant fel maethwyr ar gyfer plentyn/plant arbennig. Fe all hyn osgoi oedi wrth leoli'r plentyn/plant sydd i gael eu mabwysiadu gyda'r rhai sydd wedi cael eu hadnabod i fabwysiadu'r plant hyn.   Â
Ystyr Mabwysiadu yw bod plentyn yn dod yn aelod parhaol o'ch teulu yn gyfreithiol, a bydd gennych gyfrifoldeb rhiant llawn dros y plentyn. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr Awdurdod Lleol yn talu lwfans ituag at ofalu am y plentyn. Yn y sefyllfa hon, bydd unrhyw lwfans a delir yn cael ei adolygu'n flynyddol.