A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ni ellir gwneud unrhyw gasgliad tuag at ddibenion elusennol oni bai fod gofynion Deddf Casgliadau o Dy i Dy 1939 yn cael eu bodloni.
Mae'r Ddeddf yn gofyn am gael trwydded ar gyfer casgliadau o dy i dy er mwyn dibenion elusennol ac mae'r broses ar gyfer hyn wedi'i chynnwys yn y Ddeddf ac yn y Rheoliadau o dan y Ddeddf.
Rhaid i chi fod yn unigolyn addas a chywir.
Cyn gwneud cais, bydd angen i chi edrych i weld os yw'r dyddiad/dyddiadau yr ydych ei angen/eu hangen ar gael gyda'r gwasanaeth trwyddedu.
Mae'n hanfodol fod hyrwyddwr y casgliad yn llwyr ymwybodol o ofynion y rheoliad dan y Ddeddf fel y nodir eisoes. Mae peidio â chydymffurfio yn drosedd.
Yn benodol, rhaid i'r hyrwyddwr wneud cais i Adran y Llywodraeth i gael bathodynnau ar gyfer casglwyr, awdurdodi casglwyr a sicrhau fod y datganiadau angenrheidiol, yn y ffurf a bennir, yn cael eu dychwelyd o fewn mis i'r casgliad. Mae'r ffurflenni hyn yn cael eu darparu gyda'r drwydded.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar gasgliadau o dy i dy ar wefan y Comisiwn Elusennau.
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.
Fel arall, gellir cael ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.
Byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i ganiatau os na fyddwch wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 7 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais.
Â
Â
Nid oes tâl yn cael ei godi am geisiadau ar gyfer casgliadau stryd neu gasgliadau o dy i dy.
Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.
Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog yn y Swyddfa Gabinet.
Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 14 diwrnod o gael eich gwrthod.
Os oes gennych gwyn am fusnes sy’n gweithredu o dan y rheoliadau hyn, cysylltwch â’ch swyddfa leol gan ddefnyddio’r manylion sydd ar ochr dde’r dudalen.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Mae'r dolenni isod yn mynd â chi at wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.
Cais i redeg casgliad elusennol
Rhoi gwybod am ganlyniad y casgliad elusennol
Â