A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Swau

Pam fod angen trwydded?

Daeth Deddf Trwyddedu Swau 1981 i rym ym 1984. Mae'r Ddeddf yn gofyn am archwilio a thrwyddedu holl swau Prydain Fawr. Nod y Ddeddf yw sicrhau bod anifeiliaid sy'n cael eu cynnwys mewn mannau caeedig, yn cael amgylchedd addas i ddarparu cyfle i ymddwyn yn normal.

Pwy all wneud cais?

Unrhyw un sy'n cadw anifeiliaid gwyllt (yn ôl diffiniad Adran 21 Deddf Trwyddedu Sŵau 1981) at ddiben arddangosiad cyhoeddus, boed yn ddi-dâl neu drwy godi tâl, ar fwy na saith diwrnod mewn unrhyw ddeuddeg mis olynol, ac eithrio syrcasau, siopau anifeiliaid anwes neu sefydliadau a gofrestrwyd i gynnal arbrofion ar anifeiliaid

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o'r Swyddfa Drwyddedu Ardal neu drwy fynd at dudalennau trwyddedu Sŵau ar wefan Defra.

Sut i wneud cais

Rhaid i ymgeiswyr roi rhybudd i'r Cyngor ar y ffurflen berthnasol o'u bwriad i wneud cais o leiaf ddau fis cyn gwneud hynny, a rhaid iddynt gyhoeddi rhybudd o'r bwriad yma mewn papur newydd lleol a chenedlaethol. Yn ogystal â hyn, rhaid arddangos rhybudd yn y safle.

 

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.

Neu, mae modd cael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cysylltu ar ochr dde'r dudalen.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd, ynghyd â'r ffi, i swyddfa drwyddedu ardal.

Ffioedd

Cliciwch yma i weld ein ffioedd.

Oes yna broses apelio?

Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Ffurflenni Cais

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Hysbysiad o redeg sw

Cais am drwydded i redeg sw

Cais i newid trwydded sw

 

Deddfwriaeth

Deddf Trwyddedu Swau 1981

Rheoliadau Deddf Trwyddedu Swau 1981 (Diwygiad) (Cymru a Lloegr) 2002

Logo EUGO - Dolen i'r tudalennau am y Gyfarwyddeb Gwasanaethau
RSS