A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
I redeg sefydliad marchogaeth (lle mae ceffylau neu ferlod yn cael eu llogi ar gyfer marchogaeth neu'n cael eu defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth) yng Nghymru, Yr Alban neu Loegr, rydych angen trwydded gan Gyngor Sir Powys.
Rhaid i unrhyw un sy'n cadw sefydliad marchogaeth gael trwydded gan yr awdurdod lleol. Mae angen Trwydded Sefydliad Marchogaeth gydag unrhyw eiddo neu dir a ddefnyddir i gadw ceffylau, merlod ac ati sy'n cael eu llogi i dalu am farchogaeth neu sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yng Nghymru a Lloegr, ni ddylent fod wedi cael eu gwahardd rhag:
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.
Fel arall, gellir cael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa drwyddedu ardal.
Cyn penderfynu cais, rhaid i Gyngor Sir Powys ystyried cais gan filfeddyg neu ymarferydd yn manylu o ran a yw'r eiddo yn addas ar gyfer sefydliad marchogaeth ai peidio ac yn manylu ar gyflwr yr eiddo ac unrhyw geffylau.
Bydd Cyngor Sir Powys hefyd yn ystyried a yw'r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i ddal trwydded. Rhaid iddynt fod yn fodlon hefyd am y canlynol:
Yn ychwanegol at unrhyw amodau eraill, rhaid i drwydded sefydliad marchogaeth fod yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:
Cliciwch yma i weld ein ffioedd.
Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.
Gall ymgeisydd sydd â'i gais wedi cael ei wrthod apelio i'r llys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall ymgeisydd sydd â'i gais wedi cael ei wrthod apelio i'r siryf lleol.
Gall daliwr y drwydded sydd am apelio yn erbyn amod wneud hynny i'r llys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall daliwr y drwydded sydd am apelio yn erbyn amod wneud hynny i'r siryf lleol.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.
Gwneud cais am drwydded i redeg sefydliad marchogaeth
Rhoi gwybod am newid i'ch trwydded sefydliad marchogaeth bresennol
Â
Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964
Association of British Riding Schools (ABRS)