A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae pob llyfrgell cangen ym Mhowys yn cynnig cyfle i ddefnyddio cyfrifiadur yn RHAD AC AM DDIM. Cliciwch yma i weld y cyfleusterau ym mhob cangen.Â
Rydym yn argymell eich bod yn archebu sesiwn o flaen llaw er mwyn sicrhau bod cyfrifiadur ar gael. NODER Bydd sesiynau ar y cyfrifiaduron yn gorffen 15 munud cyn y bydd y llyfrgell yn cau.
Os ydych yn cael anhawster wrth weld sgrîn y cyfrifiadur neu wrth ddefnyddio offer cyfrifiadurol safonol, rydym wedi gosod amrywiaeth o nodweddion arnynt i wneud y cyfrifiaduron yn haws i'w defnyddio. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Gallwch ddefnyddio'r WiFi am ddim ym mhob llyfrgell ym Mhowys, gan ddefnyddio gwasanaeth WiFi Cyngor Sir Powys.
Ewch i ddesg y llyfrgell i ofyn am ID defnyddiwr a chyfrinair.
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, bydd angen i chi ddangos eich cerdyn llyfrgell a chewch fod yn aelod o'r gwasanaeth WiFi am 6 mis (i'w adnewyddu)
Os nad ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, bydd rhaid i chi ddangos rhyw fath o ID sylfaenol, a chewch ddefnyddio'r gwasanaeth am 1 wythnos fel gwestai.
Gall unrhywun sy'n 16 oed neu'n hyn ddefnyddio'r cyfrifiaduron neu wasanaethau WiFi, yn amodol ar y Polisi Defnydd Derbyniol.
Gall plant ac oedolion ifanc sy'n 15 oed ac yn iau ymuno â'r Clwb Rhyngrwyd i ddefnyddio unrhyw un o gyfrifiaduron y llyfrgell neu wasanaethau WiFi. Rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell (cliciwch yma am wybodaeth ar sut i ymuno â'r llyfrgell), a rhaid i riant/gwarchodwr ddod i'r llyfrgell gyda chi i lofnodi'r ffurflen gais o flaen aelod staff.
Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd cangen gyfrifiaduron arbennig yn Ardal y Plant lle gallant ddefnyddio rhai gwefannau ar gyfer gwaith cartref a gemau - gallwch ddefnyddio'r cyfrifiaduron hyn heb ymuno â Chlwb y Rhyngrwyd. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf: