A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Help i Syrffio’n Ddiogel

Erbyn hyn, mae pob un o lyfrgelloedd Powys yn darparu mynediad i'r Rhyngrwyd ac e-bost i oedolion a phlant gyda chaniatâd rhiant / gwarchodwr.

Golyga hyn fod cyfle i bawb gael toreth o wybodaeth a hwyl, ond mae’n rhaid i chi fod yn ofalus wrth syrffio neu ddefnyddio e-bost.

Dilynwch yr awgrymiadau isod:

BYDDWCH YN OFALUS!

> Cadwch eich manylion personol yn GYFRINACHOL bob amser – peidiwch â rhoi eich enw, cyfeiriad neu gyfrin air i neb a byddwch yn ofalus wrth sôn amdanoch eich hun, megis enw eich ysgol neu unrhyw glybiau rydych yn mynychu.

> Peidiwch byth â CHYFARFOD â rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â chi dros y we heb ganiatâd eich rhieni neu rywun cyfrifol yn gwmni i chi – gall pobl ddweud celwydd amdanynt eu hunain.

> Peidiwch â DERBYN neu agor negeseuon e-bost ac atodiadau oddi wrth bobl neu sefydliadau nad ydych yn eu hadnabod a’u hymddiried – y tebygrwydd yw mai sbam / sbwriel ydynt allai gynnwys firws neu negeseuon cas – dileewch nhw ar unwaith. Peidiwch byth â’u hateb na phrynu dim ganddynt. Wrth arwyddo am gyfrif e-bost gwnewch yn siwr nad yw eich manylion yn cael eu hychwanegu at gyfeirlyfr a pheidiwch â chytuno i dderbyn cylchlythyrau e-bost ayb.

> COFIWCH gallai rhywun ar lein fod yn dweud celwydd amdano’i hunan – os ydych yn teimlo’n bryderus neu’n anghyfforddus, peidiwch â siarad gyda nhw a pheidiwch ag agor negeseuon e-bost oddi wrthynt – chi sy’n rheoli’r sefyllfa.

> SONIWCH wrth rywun os ydych yn dod ar draws rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyffyrddus neu’n ofidus – dywedwch wrth aelod o staff y llyfrgell am gyfeiriad gwefan y safle annymunol. Cofiwch y gallai safleoedd ar y we fod yn unochrog ac nad yw popeth a fyddwch yn ei ddarllen ar y we yn wir – chwiliwch am safleoedd sy’n cael eu cynhyrchu gan sefydliadau dibynadwy.

© Internet Watch Foundation 2000

RSS