A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  Hw |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  Th |  W |  Y

Gwasanaethau i Blant

Lleolir swyddogaeth Gwasanaethau Plant o fewn Cyfarwyddiaeth Pobl a Lles Gwasanaethau y Cyngor. Mae'r Adran yn gyfrifol am holl swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant o dan 18 mlwydd oed. Mae'r adran wedi'i threfnu yn ôl yr arbenigeddau gwasanaeth canlynol, a chaiff ei rheoli o dan yr arbenigeddau hyn:

Mae'r Uned Busnes a Pherfformiad hefyd o fewn Cyfarwyddiaeth Pobl a Lles y Cyngor, ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan gynnwys rheoli perfformiad, cwynion, hyfforddiant, cyllid a gwasanaeth gweinyddol. 

Hefyd, mae Gwasanaethau Plant yn rhannu cyfrifoldeb am y gwasanaeth brys y tu allan i oriau gwaith i blant ac oedolion.

Mae'r Gwasanaethau Plant yn gweithio i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol, ac yn wir i fynd y tu hwnt iddynt, er mwyn sicrhau bod plant sydd mewn perygl yn cael eu diogelu, a bod plant sydd mewn angen yn cael eu cefnogi a'u galluogi i fyw bywydau annibynnol a llawn, trwy ddarparu gwasanaethau o safon.

Gyda desg dyletswydd benodedig, byddwn yn eich helpu os ydych yn poeni am les plant a'ch bod eisiau trafod hyn ymhellach gyda Gweithiwr Cymdeithasol.

Rydym yn cydweithio'n agos â'r holl asiantaethau allweddol, yr Heddlu, y Sector Gwirfoddol, Bwrdd Iechyd Lleol Powys, y Fyddin a'r Gwasanaeth Prawf. Mae'r gwaith aml asiantaeth hwn wedi ffurfio grwpiau allweddol fel Bwrdd Lleol Diogelu Plant Powys.

 

RSS