A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Masnachu a Marchnadoedd

Caniatâd i fasnachu ar y stryd

Gweler ein tudalen Masnachu Stryd.

Cyfraith Masnachu ar Ddydd Sul i Gymru a Lloegr

Beth yw'r gyfraith ar oriau agor siopau ar ddydd Sul?

  1. Gall siopau bach h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawer o lai na 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr) agor trwy'r dydd.

  2. Mae oriau agor siopau mwy h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr o dros 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr), ar ddydd Sul wedi'i gyfyngu i ddim mwy na chwe awr rhwng yr oriau 10.00 i 18.00.

Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. Fferyllfeydd, Ardaloedd Gwasanaeth ar Draffyrdd, Bwytai, Siopau Trin Gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau.

Pa nwyddau a ellir eu gwerthu ar ddydd Sul?

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994  yn rheoli oriau agor siopau. Nid yw'n rheoli gwerthu nwyddau penodol. Roedd Deddf 1994 wedi gwaredu â nifer o'r anghysondebau sy'n bodoli dan ddarpariaethau masnachu ar y Sul Deddf Siopau 1950, oedd yn gwahardd gwerthu rhai nwyddau ond nid nwyddau eraill, sydd yn aml yn debyg. Mae rhai nwyddau, megis alcohol, yn destun deddfwriaeth ar wahân.

Sut mae Deddf Masnachu ar y Sul yn effeithio ar farchnadoedd stryd, arwerthiannau cist car ac ati?

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn rheoli oriau agor siopau. Nid yw'n rheoli marchnadoedd stryd nac arwerthiannau cist car.

Beth yw'r gyfraith ar siopau'n agor ar Ddydd Sul y Pasg a Nadolig?

  • Gall siopai bach h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sy'n llai na 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr) agor trwy'r dydd.

  • Ni chaniateir i siopau mwy h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sydd dros 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr), agor ar Ddydd Sul y Pasg na Diwrnod Nadolig.

Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. Fferyllfeydd, Ardaloedd Gwasanaeth ar Draffyrdd, Bwytai, Siopau Trin Gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau.

Dirwyon

Dirwy o £50,000 dan Ddeddf Masnachu ar y Sul 1994 a Deddf Diwrnod Nadolig (Masnachu) 2004.

Marchnadoedd

Edrychwch ar ein prif dudalen Marchnadoedd.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS