A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Hypnotiaeth

Pam fod angen trwydded?

Mae unrhyw arddangosfa neu berfformiad hypnoteiddio ar unrhyw un angen caniatâd yr Awdurdod Trwyddedu, a rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau y bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n eu gosod.

Sut i wneud cais

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud cais.

Neu, gall y perfformiwr neu ei asiant wneud cais ysgrifenedig yn defnyddio'r manylion cyswllt ar y dde. Rhaid i bob cais gynnwys enw llawn y perfformiwr, manylion y 3 pherfformiad diwethaf, a manylion unrhyw ganiatâd sydd wedi'i wrthod neu ei dynnu'n ôl.

Ffioedd

Nid yw Cyngor Sir Powys yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

A oes proses apelio?

Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.

Cwynion Defnyddwyr

Os oes gennych chi gwyn am fusnes sy'n gweithredu o dan y drwydded hon, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion sydd ar ochr dde y dudalen hon.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Ffurflenni Cais

Mae'r ddolen isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Gwneud cais am drwydded hypnoteiddio

 

Deddfwriaeth

Deddf Hypnotiaeth 1952

Logo EUGO - Dolen i dudalennau am y Gyfarwyddeb Gwasanaethau

Cymdeithasau Masnach

Agents Association

Equity

National Entertainment Agents Council

Society for All Artists (SAA)

RSS