A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Mae 91 Ysgol Gynradd, 13 Ysgol Uwchradd a 3 Ysgol Arbennig ym Mhowys. Maent wedi'u trefnu yn y dalgylchoedd canlynol: Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Crughywel, Gwernyfed, Tref-y-clawdd / Llanandras, Llandrindod, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanidloes, Machynlleth, Y Drenewydd, Y Trallwng ac Ystradgynlais.
Gallwch chwilio am ysgol yn ôl Enw'r Ysgol, Tref Agosaf neu'r math o ysgol. Cliciwch yma i chwilio am ysgol
Â
Mae rhan benodol o'r wefan hon a llawlyfr wedi'u cynhyrchu i roi gwybodaeth am dderbyniadau ysgol ynghyd ag ateb cwestiynau am gludiant, gwisgoedd a phrydau ysgol ac ati. Gallwch nodi eich bod yn dymuno i'ch plentyn fynd i unrhyw ysgol gynradd neu uwchradd a restrir yn y llyfryn.
Os ydych am wybod rhagor am ysgol arbennig, gellir cael prosbectws ysgol, sy'n ddogfen fanylach, yn uniongyrchol o'r ysgol dan sylw.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth a manylion cyswllt ysgolion unigol
|
|
* Os hoffech wneud ymholiadau am y wybodaeth hon ac a ydyw ar gael mewn iaith arall, Braille, Print Bras, ar dâp neu mewn ffurfiau electronig eraill, cysylltwch â'r Swyddog Derbyniadau Ysgol.
Â
Â
Os na fyddwch, am ryw reswm, yn medru cael lle i'ch plentyn yn yr ysgol roeddech yn ei dymuno, mae gennych hawl i apelio i'r Panel Apeliadau a sefydlwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol er y diben hwnnw.Â
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am apeliadau yn ymwneud â derbyniadau.
Gall rhai plant fod angen sylw arbennig pan fyddant yn yr ysgol i'w galluogi i oresgyn rhyw anhawster addysgol, yn ystod rhan neu trwy gydol eu gyrfa yn yr ysgol. Ewch i'n adran am Anghenion Addysgol Arbennig i gael rhagor o wybodaeth.
Â
Mae llawer o ysgolion yn cynnal gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol (clybiau cyn / ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau) sy'n ceisio ehangu'r addysg mae eich plentyn yn ei dderbyn.
Â
Dewis Ysgol
Ysgolion ar gau oherwydd tywydd garw
Cronfa Ddata Athrawon Llanw PowysÂ
Cliciwch ar un o'r dolennau isod am restr o ddogfennau yn y categori hwnnw.