A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Gweithredwyr Achub Cerbydau

Pam fod angen cofrestru Gweithredwyr Achub Cerbydau?

Ystyrir trosedd cerbydau fel un o'r categoriau unigol mwyaf o drosedd a gofnodir. Nod Deddf Cerbydau (Trosedd) 2001 a Rheoliadau Gweithredwyr Achub Cerbydau 2002 yw gweld gostyngiad yn y cynnydd sylweddol mewn trosedd cerbydau trwy leihau'r cyhoedd i waredu â cherbydau sydd wedi'u dwyn.

Erbyn hyn, ,mae gofyn i weithredwyr achub cerbydau i:

  • Gofrestru gyda'r Cyngor o fewn yr ardal lle maent yn gweithredu
  • Cynnal cofnodion priodol o'r holl gerbydau a brynir ac a waredir â hwy
  • Cynnal archwiliadau adnabod llawn o'r gwerthwyr a'r prynwyr; a
  • Chaniatau i'r Heddlu (ac archwilwyr eraill) i gael hawl i fynd mewn i'r eiddo a'r hawl i chwilio. (Nid oes angen gwarant lle mae'r heddlu angen mynediad i eiddo cofrestredig.

Ni fydd gweithredwr achub cerbydau yn gallu cyflawni eu busnes oni bai eu bod wedi cofrestru gyda'r Cyngor. Mae'n drosedd gweithredu busnes achub cerbydau sydd heb gael ei gofrestru. Gall euogfarn ddiannod gyda'r drosedd hon arwain at ddirwy o hyd at £5000.

Beth yw'r diffiniad o weithredwr achub cerbydau?

Ystyrir fod unigolyn yn cynnal busnes fel gweithredwr achub cerbydau os ydynt yn cynnal busnes sy'n cynnwys:

  • adfer cerbydau yn llwyr neu'n rhannol i'w hailwerthu neu werthu rhannau y gellir eu hadfer o gerbydau modur a gwerthu'r rhain neu waredu â gweddill y cerbydau dan sylw fel sgrap wedi hynny;
  • prynu cerbydau sydd y tu hwnt i'w trwsio yn llwyr neu'n rhannol a'u hatgyweirio a'u hailwerthu wedi hynny;
  • yn llwyr neu'n bennaf wrth werthu neu brynu cerbydau modur sy'n destun (boed ar unwaith neu wedi eu hailwerthu yn dilyn hynny) unrhyw un o'r gweithgareddau a nodir ym mharagraffau (a) a (b); neu'n
  • llwyr neu'n bennaf mewn gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys o fewn yr ail a'r trydydd pwynt.

Sut i wneud Cais

Gofynnwch am gais i gofrestru trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon. Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd angen i chi hefyd gyflwyno dogfennau i brofi pwy ydych chi. Efallai y bydd disgwyl i chi ddangos y rhain yn bersonol yn un o swyddfeydd y Cyngor.

Beth os na fyddaf yn clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn y cyfnod a nodir?

Gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi cael ei ganiatau os na fyddwch wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 28 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais.

Cofrestrau

Cliciwch yma i weld rhestr o'r cofrestrau sydd ar gael

Ffioedd

Cliciwch yma i weld ein ffioedd.

Sut fydd eich cais yn cael ei brosesu

Bydd manylion y cais yn cael eu trosglwyddo i Heddlu Dyfed Powys. Wrth benderfynu cymeradwyo cais i gofrestru ai peidio, rhaid iddynt fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn unigolyn 'addas a chywir'. Gall y Cyngor wrthod cofrestru unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o drosedd o dan y Ddeddf, neu sydd ag euogfarnau heb eu treulio ar gyfer unrhyw un o'r troseddau canlynol:

  • Dwyn neu ymdrech i ddwyn cerbydau modur neu ohonynt

Gall swyddog gymeradwyo cais i gofrestru fel gweithredwr achub cerbydau os nad oes gan yr ymgeisydd droseddau. Os oes unrhyw bryderon neu wrthwynebiadau i'r cais, yna bydd yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor priodol y Cyngor a fydd yn cynnal gwrandawiad o'r cais. Bydd yr ymgeisydd yn cael caniatâd i fynd i'r cyfarfod, gyda chynrychiolydd os oes angen, i wneud sylwadau i'r Pwyllgor cyn iddo ystyried a gwneud penderfyniad ar y cais.

Beth fydd yn digwydd os na fydd fy nghais yn llwyddiannus?

Mae gennych hawl i apelio, os bydd cais yn cael ei wrthod, trwy'r Llysoedd. Bydd manylion y broses apelio yn cael eu cynnwys mewn llythyr yn cadarnhau fod y cais wedi cael ei wrthod.

Mae amrywiol ofynion dan y Ddeddf a'r Rheoliadau y cyfeiriwyd atynt yma. Argymhellir yn gryf fod pob gweithredwr achub cerbydau yn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf a'r Rheoliadau.

Cwynion Defnyddwyr

Os oes gennych gwyn yn ymwneud â busnes sy'n gweithredu o dan y cofrestriad hwn, cysylltwch â'ch swyddfa leol yn defnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Ffurflenni Cais

Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Cais i gofrestru fel gweithredwr achub cerbydau

Cais i newid cofrestriad fel gweithredwr achub cerbydau

 

 

Deddfwriaeth

Rheoliadau Gweithredwyr Achub Cerbydau 2002

Logo EUGO - Dolen i dudalennau am y Cyfarwyddyd Gwasanaethau
RSS