A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae gan weithredwyr offer pwyso cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau'n gymwys a gonest. Hefyd, ni all unrhyw un weithredu offer pwyso cyhoeddus oni bai fod ganddo/ganddi dystysgrif gan Brif Swyddog Safonau Masnach.
I weithredu pont bwyso gyhoeddus, rhaid cael tystysgrif cymhwysedd gan Brif Arolygydd Pwysau a Mesurau Cyngor Sir Powys.
Cyn cael tystysgrif, rhaid i'r gweithredwr pont bwyso gael ei asesu gan Swyddog Safonau Masnach. Lle bydd unigolyn i'w weld yn gymwys, bydd tystysgrif yn cael ei rhoi fydd yn ddilys heb derfyn ar gyfer gweithredu'r bont bwyso.
Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.
Nid oes tâl am yr asesiad na rhoi tystysgrif. Rhoddir tystysgrifau i unigolyn ac nid oes modd eu trosglwyddo.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf: