A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae angen trwyddedu petrolewm er mwyn gwneud yn siwr fod y rhai sy'n ei gadw a'i ddosbarthu yn gwneud hynny'n ddiogel heb achosi risg i'r cyhoedd neu'r amgylchedd. Er dibenion trwyddedu, mae 'petrolewm' yn unrhyw gynnyrch petrolewm crai sydd â phwynt tanio o dan 21 gradd. Mae hyn yn cynnwys petrol, bensen a phentân, ond nid yw'n cynnwys sbirit gwyn, paraffîn, olew disel neu olew tanwydd.
Os ydych yn storio mwy na 15 litr o betrolewm ac o fewn un o'r ddau gategori safle gwaith isod, yna byddwch angen trwydded:
Mae'r ail yn cynnwys safleoedd masnachol a ffermydd os oes ganddynt danciau storio petrol i roi petrol mewn tanciau tanwydd neu beiriannau tanio mewnol, un ai'n fecanyddol neu drydanol, (sylwch fod hyn yn llawer ehangach diffiniad na dim ond cerbydau modur).
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.
Neu defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dde ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â phetrolewm.
Mae er budd y cyhoedd i Gyngor Sir Powys brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatau. Os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 14 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais, cysylltwch â ni. Gallwch ddefnyddio'r manylion ar ochr dde'r dudalen i wneud hyn.
Os ydych wedi gwneud cais trwy wasanaeth UK Welcomes, gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen hon.
Mae'r ffi ar gyfer trwydded petrolewm yn dibynnu ar faint o betrolewm fydd yn cael ei storio. Rhoddir trwyddeau ar gyfer safle, a byddant yn ddilys am flwyddyn fel arfer; mae modd eu trosglwyddo, ond bydd ffi i'w thalu i drosglwyddo trwydded.
Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.
Os caiff y cais ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Os oes gennych chi fel unigolyn preifat gwyn am fusnes sy'n gweithredu o dan y drwydded hon, cysylltwch â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr fyddai orau (gyda phrawf iddo gael ei ddosbarthu). Os nad yw hyn wedi gweithio, os ydych yn byw yn y DG, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn cynnig cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DG, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DG.
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.
Gwneud cais am drwydded i storio petrol
Rhoi gwybod am newid yn eich trwydded betrol presennol
Gwneud cais i drosglwyddo eich trwydded betrol presennol
Gwneud cais i adnewyddu trwydded storio petrol
Â
Cyfraith diogelwch tân a dogfennau canllaw i fusnesau