A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Os ydych yn gwneuthuro neu'n storio ffrwydron, mae angen i chi naill ai gofrestru neu wneud cais am drwydded, gan ddibynnu ar faint o ffrwydron sydd ynghlwm â hyn.
Â
Proses wedi'i symleiddio yw cofrestru sy'n berthnasol lle mae meintiau llai o ffrwydron i gael eu storio. Mae cofrestru yn caniatau storio hyd at 250 cilogram (gan ddibynnu ar y math o beryglon) o ffrwydron. Pwysau net y ffrwydron i'w cynnwys yn y nwyddau yw'r pwysau hwn (NEQ), nid pwysau gros y nwyddau eu hunain.
Ar gyfer meintiau sy'n fwy na hyn, mae angen cael trwydded ar gyfer mathau mwy peryglus o ffrwydron ac mae angen trwydded ar gyfer pob proses gwneuthuro. Mae Cyngor Sir Powys yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer storio ond rhaid cael trwyddedau ar gyfer gwneuthuro gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae angen tystysgrif ffrwydron ar gyfer rhai deunyddiau, er enghraifft ffrwydron chwythu neu bowdr du, gan Heddlu Dyfed Powys.
Os ydych yn storio llai na 5 cilogram o ffrwydron nad oes angen tystysgrif ffrwydron ar eu cyfer neu lai na 15 cilogram o ffrwydron rhyfel bychain, yna does dim angen i chi gael eich cofrestru na'ch trwyddedu. Mae rhai eithriadau yn gymwys i storio tân gwyllt yn y tymor byr; cysylltwch â Safonau Masnach am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn dymuno storio rhwng 5 cilogram a 250 cilogram (NEQ) o ffrwydron, mae angen tystysgrif cofrestru ffrwydron arnoch.
Os ydych yn dymuno cadw rhwng 250 cilogram a 2,000 cilogram (NEQ), byddwch angen trwydded storio ffrwydron. Os ydych yn dymuno storio dros 2000 cilogram, bydd angen i chi gysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae ffrwydron sy'n cael eu storio mewn chwareli ac eiddo tebyg yn cael eu rheoli gan yr Heddlu.
Mae cofrestriadau a thrwyddedau yn ddilys am hyd at 5 mlynedd; mae ffi i'w dalu yn ddibynnol ar faint o ffrwydron sy'n cael eu storio. Mae gwahanol ffioedd yn berthnasol i adnewyddiadau ac amrywiadau neu drosglwyddiadau.
Byddwch hefyd angen gwneud cais am drwydded tân gwyllt ar wahân (ychwanegol) os ydych yn bwriadu cyflenwi neu amlygu tân gwyllt i'w gyflenwi yn hytrach nag yn ystod y cyfnodau canlynol:
Mae trwydded tân gwyllt yn ddilys am flwyddyn.
Dylid gwneud pob ymholiad am dân gwyllt a ffrwydron ac unrhyw geisiadau am ffurflenni cais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.