A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y


Mae Archifau Powys wedi'i leoli yn Llandrindod, ac yn gwasanaethu fel ystorfa swyddogol ar gyfer cofnodion sir Powys a'r tair hen sir sef Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed.Â
Rydym yn gyfrifol am gasglu a chadw dogfennau sy'n ymwneud â phob agwedd o hanes Powys. Mae ein casgliadau'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg a gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o ymchwil:
• Olrhain eich hanes teulu
• Darganfod hanes eich ty
• Dod i wybod rhagor am hanes eich pentref neu gymuned
• Prosiectau ysgol neu goleg
• Ymchwilio i faterion cyfreithiol megis hawliau tramwy
Mae gennym ystafell chwilio gyhoeddus ar gyfer ymchwilio ac mae staff wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol ar bob adeg. Mae'r galw am leoedd yn uchel ac fe fyddai'n ddoeth i gadw lle cyn i chi ymweld â ni.
Mae Archifau Powys yn croesawu rhoddion o archifau lleol gan unigolion a sefydliadau. Gellir adnau dogfennau ar fenthyciad di-ddiwedd.
NODER - MAE'N HANFODOL EICH BOD YN GWNEUD APWYNTIAD CYN DOD I YMWELD AG ARCHIFAU POWYS - oriau agor
Archifau Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Rhif ffon 01597 826088
Noder bydd rhaid i ymwelwyr sy'n dod i ymweld ag Archifau Powys arddangos trwydded barcio ym Maes Parcio Neuadd y Sir. Gellir cael y rhain o Archifau Powys neu o Dderbynfa Neuadd y Sir.
Os ydych am gysylltu â ni er mwyn i ni wneud gwaith ymchwilio ar eich rhan, cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymchwilio.Â
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae nifer o brosiectau rhyngrwyd wedi bod ym Mhowys sydd wedi llunio gwefannau ar wahanol agweddau ar hanes Powys.
Cliciwch yma i wybod rhagor.
A-Z o achlysuron hanesyddol, unigolion a lleoedd pwysig ym Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog.