A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Sefydliadau Rhyw

Pam fod angen trwydded?

I redeg siop ryw - h.y. unrhyw safle sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - bydd angen trwydded gan Gyngor Sir Powys. Bydd angen trwydded hefyd gan Gyngor Sir Powys i redeg lleoliad a fydd yn dangos ffilmiau rhyw i'r cyhoedd.

Serch hynny, gallwch wneud cais i Gyngor Sir Powys yn gofyn iddo hepgor y gofyniad i gael trwydded.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i ymgeisydd:

  • fod yn o leiaf 18 oed
  • beidio bod wedi'i wahardd rhag cael trwydded
  • fod wedi byw yn y DG am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais, neu os yw'n gais gan gorff corfforaethol, rhaid ei fod yn gorfforedig yn y DG
  • fod heb gael cais i ganiatau neu adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw wedi'i wrthod yn y 12 mis diwethaf, oni bai bod hynny wedi'i wyrdroi yn dilyn apêl

Sut i wneud cais

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.

Neu defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dde i ofyn am ffurflen gais sefydliad rhyw a'i hanfon i'r Cyngor gyda'r ffi briodol.

Gellir defnyddio'r ffurflen gais ar gyfer ceisiadau i ganiatau, trosglwyddo ac adnewyddu.  Rhaid anfon copi o'r cais at yr Heddlu o fewn 7 diwrnod o ddyddiad y cais.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd roi rhybudd cyhoeddus o'r cais trwy gyhoeddi hysbyseb yn y papur newydd lleol. Rhaid ei gyhoeddi o fewn 7 diwrnod o wneud y cais. Os yw'r cais yn ymwneud â safle, yna mae gofyniad ychwanegol i'r rhybudd gael ei arddangos am 21 diwrnod ar neu wrth ymyl y safle lle bydd yn gyfleus i'r cyhoedd ei ddarllen.  Rhaid i'r rhybudd gynnwys gwybodaeth benodol, ac mae'r Cyngor yn nodi'r diwyg i'w ddefnyddio.

Gall deiliaid trwyddedau wneud cais i'r awdurdod i ddiwygio amodau, telerau neu gyfyngiadau i'w trwyddedau.

Pobl sydd â Diddordeb

Gall unrhyw un sy'n gwrthwynebu caniatau, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded roi rhybudd ysgrifenedig o'u gwrthwynebiad i'r awdurdod perthnasol, gan nodi sail y gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais.

Beth os na fyddaf yn clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn y cyfnod a nodir?

Mae er budd y cyhoedd i Gyngor Sir Powys brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatau. Os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 14 diwrnod calendr o ddyddiad cyflwyno eich cais, cysylltwch â ni. Gallwch ddefnyddio'r manylion ar ochr dde'r dudalen i wneud hyn.

Os ydych wedi gwneud cais trwy wasanaeth UK Welcomes, gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen hon.

Ffioedd

Cliciwch yma i weld y ffioedd.

A oes proses apelio?

Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw un sydd â'i gais am drwydded yn cael ei wrthod, neu fod ei gais i adnewyddu trwydded yn cael ei wrthod, apelio i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael ei hysbysu.

Serch hynny, ni fydd hawl i apelio os bydd y drwydded yn cael ei gwrthod ar sail:

  • fod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn uwch na'r nifer y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn addas
  • y byddai rhoi trwydded yn anaddas o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal neu'r safle ei hun

Gall deiliad trwydded sydd am apelio yn erbyn amod apelio i lys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall deilydd trwydded sydd am apelio yn erbyn amod apelio i'r siryf lleol.

Os bydd cais am ddiwygiad yn cael ei wrthod, neu os caiff trwydded ei thynnu'n ôl, gall deilydd y drwydded apelio i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael ei hysbysu o osod neu wrthod diwygio yr amod neu'r cyfyngiad dan sylw, neu dynnu'r drwydded yn ôl.

Gall deilydd trwydded hefyd wneud cais i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.

Cwynion Defnyddwyr

Os oes gennych gwyn yn ymwneud â busnes sy'n gweithredu o dan y rheoliadau hyn, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol yn defnyddio'r manylion ar ochr dde'r dudalen hon.

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Ffurflenni Cais

Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Gwnedu cais am drwydded ar gyfer sefydliad rhyw

Rhoi gwybod am newid i'ch trwydded sefydliad rhyw presennol

Deddfwriaeth

Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008

Logo EUGO - Dolen i dudalennau am y Gyfarwyddeb Gwasanaethau
RSS