A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r cyngor yn gyfrifol am gyflwyno tystysgrifau diogelwch i feysydd chwaraeon. Mae'r dystysgrif hon yn sicrhau diogelwch y gwylwyr.
Mae angen tystysgrifau diogelwch ar gyfer:
Gall tystysgrif ddiogelwch fod naill ai'n:
Mae'r tystysgrifau diogelwch ar gael gan Gyngor Sir Powys. Â
Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau neu delerau sydd ynghlwm â thystysgrif.
Â
I fod yn gymwys am dystysgrif ddiogelwch, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i atal yr amodau a'r telerau sydd yn y dystysgrif rhag cael eu torri.
Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.
Neu, gallwch wneud cais am becyn cais neu ofyn am wybodaeth a chyngor trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon
Dylai'r ffurflenni cais gynnwys:
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r wybodaeth a'r cynlluniau angenrheidiol i Gyngor Sir Powys o fewn yr amser penodedig. Os bydd yr ymgeisydd yn methu gwneud hyn, ystyrir bod y cais wedi cael ei dynnu nôl.
Bydd awdurdod lleol yn ystyried os yw'r ymgeisydd mewn sefyllfa i atal torri amodau a thelerau tystysgrif.
Os oes cais yn cael ei wneud i drosglwyddo tystysgrif, rhaid i Gyngor Sir Powys benderfynu os fyddai'r person sydd i gael y dystysgrif, pe byddai wedi gwneud cais ei hun, yn gymwys am dystysgrif. Gall yr ymgeisydd fod yn un sydd â'r dystysgrif ar hyn o bryd neu'r un fydd yn derbyn y dystysgrif ar ôl ei throsglwyddo.
Rhaid i Gyngor Sir Powys anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch (neu gais i drosglwyddo) i brif swyddog heddlu'r ardal, yr awdurdod tân a diogelwch os nad yr awdurdod hwnnw, a'r awdurdod adeiladu os nad yr awdurdod hwnnw yng Nghymru a Lloegr.  Rhaid ymgynghori â phob un o'r cyrff hyn am yr amodau a'r telerau sydd i'w cynnwys mewn tystysgrif neu unrhyw gais i ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo tystysgrif.
Gall unrhyw un sy'n gysylltiedig â sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau a thelerau'r dystysgrif ddiogelwch apelio i'r llys Ynadon yn erbyn unrhyw amod sy'n gysylltiedig, neu ddileu unrhyw beth o'r dystysgrif ddiogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio neu ailgyflwyno tystysgrif ddiogelwch.
Â
Mae er budd y cyhoedd i Gyngor Sir Powys brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatau. Os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 14 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen.
Os ydych wedi gwneud cais trwy wasanaeth UK Welcomes, gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen hon.
Nid yw Cyngor Sir Powys yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.
Gall unrhyw un sydd â'i gais am dystysgrif diogelwch yn cael ei wrthod, gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn berson cymwys, apelio i'r llys ynadon.Â
Gall ymgeisydd sydd â'i gais am dystysgrif diogelwch arbennig yn cael ei wrthod, apelio i Lys yr Ynadon yn erbyn y penderfyniad hwn ar sail arall heblaw'r penderfyniad nad ydynt yn berson cymwys.
Gall deiliad trwydded sydd am apelio yn erbyn amod cysylltiedig, neu ddileu unrhyw beth o'u tystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio neu ailgyflwyno tystystgrif diogelwch, apelio i'r llys ynadon.
Gall deilydd trwydded hefyd wneud cais i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.
Â
Os oes gennych gwyn am fusnes sy’n gweithredu o dan y rheoliadau hyn, cysylltwch â’ch swyddfa leol gan ddefnyddio’r manylion sydd ar ochr dde’r dudalen.
Â
Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Bydd y dolenni isod yn eich arwain chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.
Gwneud cais am dystysgrif diogelwch maes chwaraeon
Rhoi gwybod am newid i'ch amgylchiadau presennol
Â
Ardystio diogelwch meysydd chwaraeon - canllawiau ar wefan Awdurdod Trwyddedu Pêl-droed.Â
Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975
Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Llefydd Chwaraeon 1987