A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae cadw rhai rhywogaethau o anifeiliaid gwyllt yn cael ei reoli gan y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976. Nid oes hawl gan unrhyw unigolyn i gadw anifail gwyllt peryglus heb gael trwydded yn gyntaf.
Unrhyw un sydd am gadw unrhyw anifail o'r fath sydd wedi'i rhestru yn y rhestr o anifeiliaid gwyllt peryglus ac eithrio swau, syrcasau, siopau anifeiliaid anwes neu sefydliadau sydd wedi'u cofrestru i gynnal arbrofion ar anifeiliaid.
Gallwch lawrlwytho'r rhestr o Anifeiliaid Gwyllt Peryglus o wefan Defra neu gofynnwch am gopi o'ch swyddfa drwyddedu leol.
Gellir cael ffurflenni cais o'r Gwasanaeth Safonau Masnach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal ynghyd â'r ffi.
Bydd rhaid talu'r ffioedd trwyddedu
Mae angen trwyddedau ar gyfer bridio cwn.
Unrhyw unigolyn(ion) sy'n cadw sefydliad bridio cwn.  Bydd unigolyn yn cadw sefydliad bridio cwn os ydynt yn bridio cwn i'w gwerthu ar unrhyw eiddo. Hefyd ystyrir bod bridiwr sydd â gast neu eist sy'n geni pum torllwyth neu ragor mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn cynnal busnes bridio cwn. Gellir cael nodiadau mwy manwl am hyn o'r swyddfa drwyddedu leol.Â
Gellir cael ffurflenni cais o'r Gwasanaeth Safonau Masnach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal ynghyd â'r ffi.
Bydd rhaid talu ffioedd trwyddedu
Pan mae achos o glefyd difrifol yn codi mae'n bwysig ein bod yn gwybod yn union leoliad da byw er mwyn gallu gosod mesurau effeithiol yn eu lle i reoli a dileu firysau heintus iawn. I geisio atal lledaenu clefydau mae yna reolau llym iawn yn rheoli adnabod da byw a'u symudiadau.Â
Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i chi hyd yn oed os mai dim ond un anifail o'r rhywogaeth dan sylw yr ydych yn ei gadw.  Mae'n rhaid llenwi dogfen Trwyddedau Symud Anifeiliaid ar gyfer ceirw, moch, defaid a geifr.  Mae'n rhaid i'r holl symudiadau gael eu hadrodd i'r Awdurdod Lleol gan yr unigolyn sy'n derbyn yr anifeiliaid. Mae'n rhaid gwneud hyn o fewn tri diwrnod o symud yr anifeiliaid.Â
Bydd angen i'r Awdurdod Lleol (o'r eiddo lle mae'r anifail yn symud iddo), y lleoliad, cludwr ac o le mae'r anifail yn dod, gael copi o'r ddogfen Trwydded Symud Anifeiliaid. Bydd gwartheg a cheffylau yn cael eu symud o dan reolaeth pasbort perthnasol.Â
Mae'r symudiadau yn ddibynnol ar amodau trwydded gyffredinol.
Nid oes tâl yn cael ei godi am drwyddedau symud anifeiliaid.