A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Trwydded Safle

Bydd yn rhaid i safleoedd sy'n gwerthu alcohol, yn darparu adloniant wedi'i reoleiddio a/neu yn cynnig lluniaeth hwyr yPremises selling alcohol, providing regulated entertainment and / or providing gael eu trwyddedu gan Ddeddf Drwyddedu 2003.

Ar gyfer beth y bwriadwyd Trwydded Safle?

Bydd trwydded safle yn awdurdodi'r safle dan sylw i gyflawni gweithgareddau trwyddedadwy. Bydd angen i bron iawn unrhyw fusnes sy'n gwneud un neu fwy o'r gweithgareddau hyn (h.y. gwerthu alcohol, darparu adloniant neu ddarparu lluniaeth hwyr) fod â thrwydded safle. Gellir cyflwyno cais am drwydded safle hefyd ar gyfer achlysuron mawr, pan fydd achlysur tebyg yn debygol o ddenu dros 500 o bobl, sydd y tu hwnt i'r cyfyngiadau ar gyfer cyflwyno rhybudd o achlysur dros dro.

Pan fydd gwerthu alcohol yn un o'r gweithgareddau sy'n digwydd yn eich safle chi, bydd angen o leiaf un deiliad trwydded personol. Rhaid i'r deiliad trwydded personol gael ei enwi ar y drwydded safle fel yr unigolyn cyfrifol, ac ef neu hi fydd y Goruchwyliwr Safle Dynodedig (DPS).

Pa mor hir y mae trwydded safle'n ddilys?

Mae gan drwydded safle effaith nes y bydd y drwydded yn cael ei diddymu, ei hatal, neu ei hildio. Golyga hyn nad oes cyfyngiadau amser iddo (oni bai fod yr ymgeisydd yn gofyn am hyn, er enghraifft yn ystod gwyl gerdd).

Pwy all wneud cais am drwydded safle?

Gall unrhyw un o'r canlynol wneud cais am drwydded safle:

  • unrhyw un sy'n cynnal busnes ar safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef
  • clwb cydnabyddedig
  • elusen
  • corff o'r gwasanaeth iechyd
  • rhywun sydd wedi'i gofrestru dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn ymwneud ag ysbyty annibynnol
  • prif swyddog heddlu o un o heddluoedd Cymru a Lloegr
  • unrhyw un sy'n ymgymryd â swyddogaeth o dan ragorfraint Ei Mawrhydi
  • unigolyn o sefydliad addysgiadol
  • unrhyw un arall a ganiateir

Rhaid i ymgeiswyr fod yn o leiaf 18 mlwydd oed.

Beth yw'r broses gwneud cais?

Dylid gwneud ceisiadau yn ymwneud â safleoedd ym Mhowys i Gyngor Sir Powys.

Rhaid i geisiadau fod ar ffurf benodol a dylid cynnwys y ffi angenrheidiol gyda'r cais, atodlen weithredu, cynllun o'r safle a ffurflen ganiatâd gan y goruchwyliwr safle (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd lle bydd angen trwydded ar ei chyfer).

Bydd yr atodlen weithredu'n cynnwys manylion:

  • gweithgareddau i'w trwyddedu
  • yr amseroedd y bydd y gweithgareddau'n digwydd
  • unrhyw amseroedd eraill y bydd y safle ar agor i'r cyhoedd
  • yn achos ymgeiswyr sydd eisiau trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen trwydded ar ei gyfer
  • gwyboaeth yn ymwneud â'r goruchwyliwr safle
  • os yw'r alcohol sydd i'w werthu i'w yfed ar neu oddi ar y safle neu'r ddau
  • y camau i'w cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen

Efallai y bydd angen i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o'r cais i unigolyn arall neu gorff cyfrifol, e.e. Cyngor Sir Powys, prif swyddog yr heddlu neu'r awdurdod tân ac achub.

Rhaid i Gyngor Sir Powys ganiatau'r cais, y gellir rhoi amodau ar ei gyfer. Rhaid cynnal gwrandawiad os ceir sylwadau yn ymwneud â'r cais. Os bydd gwrandawiad, gellir rhoi trwydded neu ei rhoi yn ddibynnol ar amodau ychwanegol. Gall gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod.

Bydd Cyngor Sir Powys yn rhoi'r gwybod i'r ymgeisydd beth yw'r penderfyniad, unrhyw un sydd wedi rhoi sylwadau perthnasol (h.y. sylwadau nad oedd yn gwamalu neu'n annifyr) a phennaeth yr heddlu.

Gellir gwneud ceisiadau hefyd i newid neu drosglwyddo trwydded. Bydd yn rhaid cael gwrandawiad os ceir sylwadau neu lle na chydymffurfir ag amodau yn ymwneud â throsglwyddo.

Mae'r ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yn cynnwys cais am awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, anallu neu fethdaliad deilydd trwydded neu geisiadau diwygio.

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.

Pa mor hir mae hi'n ei chymryd i gael trwydded safle?

Mae'r amser yn dibynnu ar bob cais unigol. Serch hynny, mae'r cyfnod hwn fel rheol yn amrywio rhwng un a 3 mis, ond gallai fod yn hirach.

Pan gaiff cais ei gyflwyno, bydd cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod yn dilyn. Mae hyn yn caniatau amser i awdurdodau cyfrifol a thrigolion / busnesau lleol (rhai sydd â diddordeb) i ystyried y cais a chynnig sylwadau (h.y. i gefnogi/gwerthwynebu) cais am drwydded un unol â'r pedwar amcan trwyddedu:

  • atal trosedd ac anhrefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelu plant rhag niwed

Rhaid i'r cais gael ei hysbysebu yn ystod y cyfnod ymgynghori trwy hysbysiad ar y safle ac yn y wasg leol. 

Os bydd sylwadau'n gwrthwynebu cais na ellir eu datrys trwy drafod, bydd y cais ym mynd gerbron pwyllgor trwyddedu'r Cyngor.  Rhaid cynnal y gwrandawiad o fewn 20 diwrnod gwaith i ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Bydd y pwyllgor yn ystyried y cais sydd ger eu bron a'r sylwadau a'r dystiolaeth y bydd yn eu clywed.  Gall y pwyllgor benderfynu caniatau'r drwydded y gwnaed cais amdani, newid yr amodau y gwnaed cais amdanynt, eithrio gweithgaredd y gellir ei drwyddedu o gwmpas y drwydded, gwrthod nodi Goruchwyliwr Safle Dynodedig ar y drwydded neu wrthod y cais. 

Cwynion defnyddwyr ac eraill sydd â diddordeb

Gall prif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal y mae'r safle wedi'i leoli ynddi wneud cais i Gyngor Sir Powys adolygu trwydded os oes gan y safle drwydded i werthu alcohol a bod yr uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif yn nodi ei fod o'r farn fod y safle yn ymwneud â throsedd neu anhrefn difrifol neu'r ddau. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal a gall unrhyw un sydd â diddordeb gynnig sylwadau.

Gall prif swyddog yr heddlu hysbysu Cyngor Sir Powys os yw'n credu y gallai trosglwyddo trwydded o dan gais diwygio danseilio amcanion atal trosedd. Rhaid cyflwyno hysbysiad o'r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn y cais.

Gall rhywun sydd â diddordeb neu gorff cyfrifol gynnig sylwadau yn ymwneud â chais am drwydded neu wneud cais i gorff trwyddedu adolygu trwydded.

Gall rhywun sydd â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud cais i Gyngor Sir Powys adolygu'r drwydded safle. Bydd Cyngor Sir Powys yn cynnal gwrandawiad.

Gall prif swyddog yr heddlu ofyn i Gyngor Sir Powys adolygu trwydded os oes gan y safle drwydded i werthu alcohol a bod uwch swyddog o'r heddlu wedi rhoi tystysgrif i nodi ei fod o'r farn fod y safle yn ymwneud â throsedd neu anhrefn difrifol neu'r ddau.

Gall rhywun sydd â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gynigiodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn caniatau trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, newid, gweithgaredd y gellir ei thrwyddedu neu benderfyniadau yn ymwneud â goruchwyliwr safle.

Rhaid apelio i lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael hysbysiad o benderfyniad.

Beth yw pris trwydded safle?

Mae ffi ymgeisio'n daladwy wrth gyflwyno cais, ac os caniateir trwydded, codir ffi blynyddol.  Seilir y ffioedd ar werth trethadwy'r safle sydd i'w drwyddedu.

Cliciwch yma i weld ein ffioedd.

Cysylltwch â'r adran Drwyddedu os nad ydych yn siwr pa fath o drwydded sydd ei hangen arnoch.

Oes yna broses apêl?

Oes, mae proses apêl ar gael i'r ymgeiswyr a'r rheiny a wnaeth sylwadau ynglŷn â'r cais, os nad ydynt yn fodlon â phenderfyniad y pwyllgor trwyddedu. Rhaid sefydlu unrhyw apêl yn y Llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i'r ymgeisydd yngln â phenderfyniad y Pwyllgor.

RSS