A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Safleoedd ag ynddynt Alcohol ac Adloniant

Deddf Trwyddedu 2003

Daeth Deddf Trwyddedu 2003 i rym fis Tachwedd 2005.

Sefydlodd y Ddeddf un system gyffredinol ar gyfer trwyddedu safleoedd lle bydd alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi, a lle bydd adloniant wedi'i reoleiddio neu luniaeth hwyr yn cael ei ddarparu.

Y gweithgareddau a fydd yn cael eu trwyddedu fydd:

  • Manwerthu alcohol
  • Os ydych yn glwb cymwys, cyflenwi alcohol i aelodau o'r clwb, neu werthu alcohol i westai aelod o'r clwb
  • Darparu adloniant wedi'i reoleiddio 
  • Gwerthu lluniaeth hwyr - gwerthu bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00 y nos a 5.00 y bore i'w fwyta ar y safle neu oddi arno, (gan gynnwys cludfwyd ac arlwywyr symudol) oni bai eich bod yn westy, cantîn staff neu'n wersyll.

Rhaid cyflawni'r gweithgareddau yma y mae angen trwyddedau ar eu cyfer yn unol ag un o'r canlynol:

Mae'r Ddeddf ei hun yn manylu ar brif amcanion trwyddedu y mae'n rhaid i'r Cyngor, fel yr awdurdod trwyddedu, eu hybu, wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau dan y system drwyddedu. Yr amcanion trwyddedu yw:

  • Atal trosedd ac anhrefn;
  • Diogelwch y cyhoedd;
  • Atal niwsans cyhoeddus; ac 
  • Amddiffyn plant rhag niwed.

Rhaid i ddeiliaid trwyddedau, y Cyngor ac asiantaethau eraill oll gydweithio i hybu'r amcanion yma.

Mae gofyn penodi Goruchwyliwr Safle Dynodedig ar gyfer pob safle lle cyflenwir alcohol dan awdurdod trwydded safle, a dylai unigolyn o'r fath fod yn berchen ar Drwydded Personol.

Datganiad Polisi Trwyddedu

Mae'r Cyngor wedi paratoi Polisi Trwyddedu y mae'n rhaid ei adolygu bob tair blynedd, neu cyn hynny os oes angen. Diben y polisi yw manylu ar y dull y  bwriada'r awdurdod trwyddedu ei ddefnyddio i gyflawni ei ddyletswyddau o ran rheoli a gorfodi.  Nid yw'r polisi'n ceisio esbonio'r gwahanol  brosesau o wneud cais. Fodd bynnag, gallwch ofyn i'r awdurdod trwyddedu am ganllawiau a chyngor pellach ar sut i wneud cais neu ofyn am adolygiad o drwydded.  Cynghorwn ymgeiswyr ac aelodau o'r cyhoedd i gysylltu â'r adran Drwyddedu os oes ganddynt unrhyw ymholiad.

Gorfodi

Gydol y flwyddyn bydd swyddogion yr awdurdod yn cynnal arolygon safle seiliedig ar risg, a hynny heb roi rhybudd, er mwyn sicrhau bod y safle'n cadw at yr amodau a'r safonau diogelwch. Os ydych yn pryderu am salfle trwyddedig, ffoniwch yr adran Drwyddedu neu anfonwch lythyr trwy'r post neu'r e-bost.

Rhagor o Wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf Trwyddedu a'r diwydiant trwyddedig ar y gwefannau canlynol: 

Deddf Drwyddedu 2003

Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Y Sefydliad Trwyddedu

Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain

Sefydliad Tafarnwyr Prydain

Y Swyddfa Gartref

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

Lechyd yr Amgylchedd

Cyfeiriad E-bost: public.protection@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7037

Cyfeiriad:
Lechyd yr Amgylchedd
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

RSS