A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Tai Aml Ddeiliadaeth

Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006

Cyfnod Newydd mewn Deddfwriaeth Tai

Daeth Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 i rym yng Nghymru ar 30 Mehefin 2006.

Mae Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 yn effeithio ar landlordiaid mewn sawl ffordd:

  • Mae diffiniad Tai Amlfeddiannaeth yn newid. Mae'r rhan fwyaf o dai sy'n cael eu rhannu gan fyfyrwyr bellach wedi'u cynnwys fel Tai Amlfeddiannaeth.
  • Rhaid i landlordiaid Tai amlfeddiannaeth sydd ar dri llawr neu fwy sydd â phump neu fwy o ddeiliaid wneud cais i'r Cyngor am drwydded orfodol.
  • Cyflwynodd y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai 29 perygl i swyddogion eu hystyried wrth archwilio eiddo.

Trwyddedu Tai Aml Ddeiliadaeth

Rhaid i landlordiaid sy'n berchen ar rai mathau o Dai Aml Ddeiliadaeth wneud cais am drwydded. Rhaid i ddeilydd y drwydded fod yn unigolyn addas.

Gall awdurdodau lleol wneud cais i'r Cynulliad i gynnal Cynlluniau Trwyddedu Ychwanegol i ymdrin â Thai Aml Ddeiliadaeth sydd y tu allan i sgôp trwyddedu gorfodol. Mae Cynlluniau Trwyddedu Dewisol yn ymdrin â Thai Aml Ddeiliadaeth mewn meysydd lle mae galw isel neu lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymgymryd â thrwyddedu gorfodol a bydd yn symud i Drwyddedu Ychwanegol yn Ebrill 2010.

Beth yw'r Broses o wneud Cais?

Rhaid cyflwyno'r ceisiadau i Gyngor Sir Powys.

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyflwyno gwybodaeth.

Neu, defnyddiwch y manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen i ofyn am becyn cais.

Rhoddir trwyddedau gyda'r amodau canlynol:

  • os yw'r ty'n addas, neu bod modd ei addasu ar gyfer amlfeddiannaeth.  
  • os yw'r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys, ac yn berson sy'n addas i feddu ar drwydded.  
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y ty, a'i fod yn berson addas a chymwys i fod yn reolwr. 
  • os yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol. 

Beth os na fyddaf yn clywed gan Gyngor Sir Powys mewn pryd?

Gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi cael ei ganiatau os na fyddwch wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 28 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais.

 

A oes tâl ar gyfer Trwydded Amlfeddiannaeth?

Oes, mae tâl ar gyfer y drwydded hon.  Bydd yr union dâl yn dibynnu ar amodau ac eithriadau.

A oes proses apelio?

Cysylltwch â Cyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.

Gallwch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl.  Gallwch hefyd apelio i dribiwnlys eiddo preswyl am unrhyw amodau sydd ynghlwm â thrwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded.

Dylid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Cwynion gan ddefnyddwyr a phobl eraill sydd â diddordeb.

Os oes trwydded yn cael ei rhoi a'ch bod chi am apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, gallwch wneud hynny i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai

Bydd y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai yn dal yn effeithio ar landlordiaid lle nad yw eu heiddio o fewn cylch cyfrifoldeb trwyddedu. Mae'r system hon yn cymryd lle'r Safon Addasrwydd.

Hwn yw dull newydd y Llywodraeth o ystyried y peryglon i iechyd a diogelwch mewn tai. Mae'n ddull lle gall swyddogion tai weld peryglon ac asesu pa mor debygol yw niwed.

Mae 29 perygl i gyd. Os gwelir peryglon sylweddol, gellir rhoi Rhybudd Gwella neu Orchymyn Gwahardd yn hytrach na rhybuddion atgyweirio a gorchmynion cau.

Cyswllt Gwasanaeth

Tai Aml Ddeiliadaeth

Cyfeiriad E-bost: houses.in.multiple.occupation@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7030

Cyfeiriad:
Tai Aml Ddeiliadaeth
Tai Aml Ddeiliadaeth
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Ffurflenni Cais

Mae'r dolenni hyn yn eich tywys chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Gwneud cais am dy mewn trwydded amlfeddiannaeth

Rhoi gwybod i ni am newid i'ch ty presennol sydd mewn trwydded amlfeddiannaeth.

 

https://online.ukwelcomes.businesslink.gov.uk/bdotg/action/piplink?agency_id=490&service_id=7100011101&site=2000

 

Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth  (Cymru) 2006

Logo Cyfarwyddeb Gwasanaethau GO yr Undeb Ewropeaidd

Cymdeithasau Masnach

British Property Federation (BPF)

National Federation of Property Professionals

RSS