A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Cewch. Mae yna fyrddau ar gyfer arddangos hysbysiadau yn holl lyfrgelloedd Powys. Mae gan nifer ohonynt le ar gyfer arddangosfeydd artistig neu arddangosfeydd sy’n rhoi gwybodaeth.
Ydyn, fel rhan o’r broses arferol o reoli stoc, mae llyfrgelloedd yn aml yn cael gwared ar eitemau nad oes eu hangen. Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd silff neu droli o lyfrau a deunyddiau clyweled sydd ar werth. Weithiau, bydd stoc yn cael ei werthu dros 2 neu 3 diwrnod yn un o’n llyfrgelloedd. Mae’r arwerthiannau hyn yn cael eu hysbysebu’n lleol.
Mae yna lun-gopïwr yn y rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Mae deddfwriaeth hawlfraint yn berthnasol i lungopïo deunyddiau sydd wedi’u hargraffu. Mae'r wybodaeth berthnasol i'w gweld yn y llyfrgelloedd.
Cewch. Mae cyfleusterau ffacs ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Powys. Rhaid talu am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Rydym yn croesawu adborth gan ein cwsmeriaid. Gallwch roi eich sylwadau yn uniongyrchol i aelod staff yn eich llyfrgell leol, neu gallwch ysgrifennu:
Llyfrgell y Sir
Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Gwybodaeth ac Archifau Powys
Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod Powys LD1 5LG
Fel arall, llenwch y ffurflen adborth ar-lein.
Ffoniwch neu anfonwch e-bost at y llyfrgell.
Gallwch. Mae croeso i chi roi eitemau sydd â chynnwys perthnasol, sydd o ansawdd da ac mewn cyflwr da i gael eu hystyried fel rhan o stoc cyffredinol y llyfrgell. Os nad ydynt yn cwrdd â’r safonau hyn, byddant yn cael eu derbyn ar yr amod bod yr un sy’n rhoi’r eitemau yn cytuno i’r llyfrgell eu gwerthu yng ngwerthiannau llyfrau’r llyfrgell. Bydd unrhyw eitemau a roddwyd sy’n cael eu hychwanegu at y stoc yn cael eu trin yn yr un ffordd ag unrhyw eitem arall. Ni fydd modd i’r rhoddwr osod amodau ychwanegol. Rydym hefyd yn croesawu eitemau sydd o ddiddordeb lleol. Bydd staff astudiaethau lleol yn asesu pa mor addas yw’r rhain. Bydd cofnodion gwreiddiol, er enghraifft cofnodion cyrff swyddogol, cymdeithasau, busnesau neu unigolion yn cael eu pasio ymlaen i Swyddfa Archifau’r Sir. Gallwch gyflwyno’r rhain fel rhodd neu eu gosod ar adnau (benthyciad tymor hir). Swyddfa’r Archifau sy’n gyfrifol am osod, cadw a benthyg unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â hanes Powys.
Cewch. Rydym yn croesawu awgrymiadau am eitemau i’w hychwanegu at ein stoc. Defnyddiwch y ffurflen ar-lein neu ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod.
Oes, mae gan rai llyfrgelloedd ystafelloedd i’w llogi gan grwpiau cymunedol ar gyfer cyfarfodydd, sgyrsiau, cyrsiau hyfforddi a gweithgareddau tebyg. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Gofynnwch i’ch llyfrgellydd lleol am leoliadau a manylion, ac edrychwch ar dudalennau gwe’r llyfrgell.
Mae cyfleusterau ar gyfer arddangos gwaith celf ar gael mewn rhai o’n llyfrgelloedd mwy. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Gofynnwch i’ch llyfrgellydd lleol am leoliadau a manylion, neu ewch i weld tudalennau gwe'r llyfrgell.