Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Amdanom ni
Amdanom ni
Grwp traws-asiantaeth yw Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys (CYPP). Mae ganddo'r cyfrifoldeb strategol cyffredinol am gynllunio, datblygu a chomisiynu gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Sicrhau a galluogi cydweithrediad effeithiol rhwng asiantaethau yw ei rôl. Gwna hyn er mwyn gwella'r deilliannau i blant a phobl ifanc. Daw'r bartneriaeth ag amrywiaeth eang o fuddiannau at ei gilydd, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol. (Strwythur ac Aelodaeth y Bartneriaeth)
Y Tîm Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc sy'n cynorthwyo'r CYPP yn eu gwaith. Cyngor Sir Powys sy'n gwesteio'r tîm ar ran CYPP.
Gweledigaeth CYPP
Rydym am i holl blant a phobl ifanc Powys gyrraedd eu potensial llawn trwy allu defnyddio'r gwasanaethau angenrheidiol, ac rydym am i'r gwasanaethau hyn eu gwerthfawrogi a'u parchu (a'u rhieni a'u gofalwyr) a hybu eu hiechyd, eu lles, eu dysg a'u datblygiad.
Dyma'r egwyddorion sy'n sail i weledigaeth y Bartneriaeth:
- y bydd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn profi ymdeimlad o berthyn ac ymrymusiad, a'u bod yn cael gwybodaeth a chymorth;
- y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu'n ymarferol ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed;
- Y bydd cyfle cyfartal iddynt ddefnyddio gwasanaethau, gan gynnwys cydraddoldeb o ran iaith;
- bod gwasanaethau'n cael eu darparu gan weithlu medrus ac effeithiol ;
- y byddwn yn defnyddio'n hadnoddau yn y ffordd orau bosibl er mwyn rhagori ar safonau ansawdd sylfaenol;
- y byddwn yn gwella'n gallu i weithio mewn partneriaeth trwy fynd y tu hwnt i'n ffiniau darparu gwasanaeth traddodiadol a chydnabod ein sgiliau a'n galluoedd unigol ar yr un pryd;
- ein bod wedi ymrwymo i gyflenwi deilliannau y gellir dangos eu bod yn well i blant, i bobl ifanc a'u teuluoedd.
Bydd y Bartneriaeth yn rhoi'r egwyddorion hyn ar waith trwy:
- barhau i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddeall eu profiadau wrth geisio, wrth gyrraedd ac wrth dderbyn gwasanaethau a dysgu oddi wrthynt sut y mae modd gwella gwasanaethau, gwybodaeth a'r modd o'u cyrraedd;
- sicrhau bod amrywiaeth briodol o wasanaethau effeithiol ar sail tystiolaeth yn cael ei datblygu i blant a phobl ifanc (a'u teuluoedd) sy'n byw ym Mhowys a strategaeth i roi gwybod i bobl fod y gwasanaethau o'r fath ar gael;
- hybu a chynnal gwasanaethau cyffredinol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc;
- hwyluso'r gallu i ddefnyddio gwasanaethau cyffredinol lle mae gan bobl ifanc anghenion ychwanegol;
- ail-leoli adnoddau er mwyn gwella strategaethau a gwasanaethau atal ac ymyriad cynnar yn sylweddol;
- sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu targedu at y rhai sydd â'r risg a'r angen mwyaf;
- sicrhau bod y gwasanaethau'n canolbwyntio ar y plentyn neu'r unigolyn ifanc;
- cynnig gwasanaethau sy'n parchu amrywiaeth iaith, crefydd, ethnigrwydd a diwylliant;
- gweithio tuag at well integreiddio rhwng asiantaethau â'i gilydd, gan barchu'r ddarpariaeth.