Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Strywthur a Busnes » Grwp Swyddogion y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Grwp Swyddogion y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc


Mae Grwp Swyddogion y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn cynnwys Arwinyddion Grwpiau Thematig ac uwch bartneriaid perthnasol eraill.  Mae gan y Grwp gyfrifoldeb am arwain ar gynllunio a datblygu tactegol, a bydd yn rhoi'r newidiadau ar waith yn y modd y bydd sefydliadau'n cyflwyno strategaethau a phrosesau integredig, ac yn cyflwyno gwasanaethau.

Byddant yn gyfrifol am oruchwylio'r canlynol:

  • Proses cynllunio strategol 3 blynedd a busnes 1 flwyddyn ar y cyd.
  • Goruchwylio cyflwyno'r gweithredoedd a nodwyd yn y cynllun busnes yn effeithiol.
  • Diffinio targedau a chanlyniadau ar gyfer eu maes thematig.
  • Dynodi unrhyw faterion strategol trawsbynciol sydd angen ymdrin â hwy, yn enwedig yn ymwneud â seilwaith.
  • Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw brosesau a chyflawni unrhyw dasgau y cytunwyd arnynt gan y PPPI.
  • Dynodi'r gefnogaeth sydd ei hangen gan Dîm Cefnogi'r Bartneriaeth.
  • Adrodd ar ofynion rheoli perfformiad y ‘broses’.
  • Cefnogi Arweinyddion Gweithredu gyda'u tasgau a sicrhau eu bod yn cyflawni eu tasgau yn unol â gofynion y PPPI.