Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Cymryd Rhan
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), yn nodi fod gan blant a phobl ifanc hawl i gymryd rhan yn y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n berthnasol i'w bywydau; a hawl i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn ymwneud â hwy o fewn y teulu, yr ysgol neu'r gymuned. Yn benodol, dylent gael y cyfle i gael eu clywed mewn unrhyw achosion barnwrol neu weinyddol yn effeithio ar y plentyn, un ai'n uniongyrchol neu trwy eiriolwr.
Mae cymryd rhan neu gyfranogi a rhoi grym yn golygu rhoi cyfle i'r holl blant a phobl ifanc fod yn rhan o wneud penderfyniadau ar bob lefel. Mae hyn yn golygu rhoi eu barn ar unrhyw beth sy'n effeithio arnynt. Mae'n golygu cael eu clywed a gwybod y bydd pobl yn cymryd barn plant a phobl ifanc o ddifrif ac yn gweithredu ar hynny.
Nôl yn 2005, cynhaliodd y Llywodraeth gystadleuaeth yn gofyn i bobl ifanc grynhoi cymryd rhan neu gyfranogi mewn un frawddeg, a dyma oedd y canlyniad:
"Mae cymryd rhan yn golygu fod gennyf hawl i gael cyfle i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithredoedd sy'n effeithio arnaf. Cael Llais, Cael Dewis - Fy Llais, Fy Newis."
|
|
Llenwch y ffurflen hon os hoffech chi ymgynghori â fforwm Ieuenctid Powys. |
570 K |
|
|
Ymatebodd dros 1,400 o bobl ifanc ym Mhowys i'r arolwg camddefnyddio sylweddau. Mae'r canfyddiadau wedi'u hamlinellu yn yr atodiad |
158 K |