Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Eich Hawliau

Eich Hawliau


Os ydych dan 18, rydych yn cael eich gwarchod gan gytundeb rhyngwladol o'r enw Confansiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Mae'r UNCRC yn nodi hawliau plant a phobl ifanc er mwyn eu cadw'n ddiogel, cael y pethau maent eu hangen a chymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau. Mae'r Confensiwn yn cynnwys 54 erthygl sy'n ymdrin â holl agweddau bywydau plant.

Cafodd y Confensiwn ei dderbyn gan Lywodraeth y DG yn 1991. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu'r UNCRC fel eu cynllun gweithredu swyddogol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae'r saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru'n seiliedig ar Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig.

Egwyddorion arweiniol yr UNCRC:

  • Dim gwahaniaethu - Mae'r holl hawliau'n berthnasol i'r holl blant heb eithriad a heb wahaniaethu o unrhyw fath.
  • Pennaf Les - Dylai pennaf les y plentyn fod yn brif ystyriaeth ym mhob gweithred yn ymwneud â phlant.
  • Goroesi a datblygu - Mae gan y wladwriaeth rwymedigaeth i sicrhau goroesiad a datblygiad pob plentyn cyn gymaint ag sy'n bosibl.
  • Cyfranogiad - Rhaid ystyried barn plant ym mhob mater sy'n effeithio arnynt.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Mae'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru (gan gynnwys y Prif Weinidog) i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC). Rhwng mis Mai a mis Ebrill 2014, bydd y ddyletswydd hon yn berthnasol wrth iddynt wneud penderfyniadau am bolisi newydd neu wrth newid polisiau presennol. Fodd bynnag o ddechrau mis Mai 2014, bydd hyn yn berthnasol pan fyddant yn ymarfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

Y Cynllun Plant

Bydd rhaid i Weinidogion Cymreig lunio Cynllun Plant yn nodi'r trefniadau y maent wedi'u gwneud neu y byddant yn eu gwneud er mwyn cynnal y dyletswyddau o ran rhoi ystyried i'r UNCRC. Efallai y bydd y cynllun hwn yn gofyn i'r Gweinidogion Cymreig gyhoeddi adroddiadau ynglyn â pha mor dda mae'n gweithredu. Pan fydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi ei Gasgliadau Arsylwi, bydd gan y Gweinidogion Cymreig chwe mis i ystyried a oes angen diwygio neu ailysgrifennu'r cynllun.

Eich Hawliau ym Mhowys

Os ydych yn credu nad yw eich hawliau chi, neu hawliau plant neu bobl ifanc rydych yn pryderu amdanynt, yn cael eu parchu, gallwch gysylltu â Thros Gynnal, Gwasanaeth Eiriolaeth Powys i blant a phobl ifanc.

 
Rhadffôn 0800 085 8471 neu 01982 552450


E-bost: Powys@trosgynnal.org.uk             Gwefan: www.trosgynnal.org.uk

Tros Gynnal - Taflen i Weithwyr Proffesiynol

 
I ganfod rhagor am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig a'ch Hawliau Chi, edrychwch ar rai o'r gwefannau yma:

Draig Ffynci - Lawrlwytho pecyn Ein Hawliau, Ein Stori

Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd - Copi dwyieithog o erthyglau'r UNCRC

Plant yng Nghymru - Confensiwn y Cenhedloedd Unedig

Comisiynydd Plant Cymru - Adran ar Hawliau

UNICEF - Y Confensiwn Hawliau Plant