A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ailbrisio Trethi Busnes 2010

Pob pum mlynedd, mae eiddo annomestig (busnes) yn cael eu hailasesu a rhoddir gwerth trethadwy newydd iddynt. Asesiad yw hwn o werth rhent blynyddol ac fe'i defnyddir er mwyn cyfrifo atebolrwydd am drethi busnes. Gelwir hyn yn ailbrisio a bydd yr un nesaf yn dod i rym o'r 1 Ebrill 2010.

Nid yw ailbrisio yn codi refeniw ychwanegol yn gyffredinol. Yn hytrach na hynny, mae ailbrisio yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo led led Cymru ac felly yn ailddosbarthu'r un atebolrwydd am gyfanswm trethi ar gyfer trethi busnes. Bydd rhai biliau trethi yn cynyddu, gydag eraill yn parhau'r un fath a biliau eraill yn gostwng.


Pryd fyddaf yn gwybod fy Ngwerth Trethadwy Newydd?

Hydref 2009- Bydd y gwerthoedd trethadwy drafft newydd yn cael eu hanfon i drethdalwyr ym mis Hydref 2009. Byddant ar gael hefyd ar-lein yn www.voa.gov.uk/2010
Bydd y Cyngor yn cyfrifo eich bil treth ar gyfer 2010-2011 trwy luosi'r gwerth trethadwy newydd gyda chyfradd y bunt (neu luosydd), a nodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yna'n cymhwyso unrhyw ostyngiad sy'n ddyledus i chi. Bydd eich bil treth ar gyfer 2010-2011 yn cael ei gyhoeddi o amgylch 20 Mawrth 2010.

Mae'r lluosydd yn gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI) ar ddiwedd mis Medi ym mhob blwyddyn heblaw pan y bydd ailbrisiad. Golyga hyn y bydd rhaid i'r Cyngor aros am hysbysiad o'r lluosydd newydd gan y Cynulliad cyn y gellir cyfrifo biliau treth. Rydym yn aros i glywed gan y Cynulliad am yr amserlen derfynol er mwyn iddynt roi gwybod i Gynghorau am y lluosydd ar gyfer 2010-2011.


Sut allwch chi wneud yn siwr fod eich gwerth trethadwy yn gywir.

Pan fyddwch yn derbyn manylion eich gwerth trethadwy newydd, mae gennych gyfle i edrych ar y manylion a'u cymharu gydag eiddo eraill yn y rhestr brisio. Os ydych yn meddwl fod yr asesiad neu unrhyw un o'r manylion a ddarperir yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar unwaith.

Noder na all Cyngor Sir Powys addasu eich gwerth trethadwy - dim ond Asiantaeth y Swyddfa Brisio all wneud hyn.

Fe hoffwn i wybod rhagor?

Am ragor o wybodaeth ar ailbrisiad 2010, ewch i www.voa.gov.uk/2010 neu cysylltwch â'ch Swyddfa Brisio leol:

Ar gyfer Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Merthyr Tudful
Castle Street
Merthyr Tudful

Ymholiadau Trethi Busnes Ffôn: 03000 505505

Ar gyfer Sir Drefaldwyn

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Wrecsam
Regent Street
Wrecsam

Ffôn: 03000 505505

 Cliciwch yma am amcangyfrif o'ch bil treth ar gyfer 2010-11

RSS