Problemau gyda'r wefan
Doedd y wefan yma ddim ar gael i'r rhan fwyaf o bobl yn ystod y bore ar 24 Hydref. Gallwch gyrraedd y wefan nawr ond mae'n bosibl na fyddwch yn gallu gweld rhai dogfennau (e.e. dolenni i ffeiliau pdf) a delweddau. Mae'n bosibl na fyddwch yn gallu cyrraedd y System Ceisiadau Cynllunio ac ambell system arall chwaith. Ymddiheurwn am hyn. Rydym yn gobeithio adfer y gwasanaeth arferol yn fuan.

Canlyniadau'r Cyfrifiad 1841 - 1911

Gwnaed cyfrifiad o boblogaeth Cymru a Lloegr bob deg mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941). 

Cofnodion

Mae'r daliadau sydd ar fiche/ffilm wedi'u rhestru isod: 

Sir Frycheiniog

Llyfrgell Ranbarthol Aberhonddu: Ar ficrofilm/fiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901

Archifdy'r Sir: Ar ficrofiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901 

Sir Drefaldwyn

Llyfrgell Ranbarthol Y Drenewydd: Ar ficrofilm/fiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901

Archifdy'r Sir: Ar ficrofiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901 

Sir Faesyfed

Llyfrgell Ardal Llandrindod: Ar ficrofilm/fiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901

Archifdy'r Sir: Ar ficrofiche: 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891, 1901 

O 1801 i 1831, cofnodwyd nifer y bobl ym mhob plwyf, ond ni chofnodwyd eu henwau nag unrhyw fanylion personol; hefyd, nodwyd tai yr oedd rhywun yn byw ynddynt a thai gwag, a rhoddwyd galwedigaethau pobl yn fras. Lluniwyd y data hwn gan Arolygwyr y Tlawd lleol a chlerigwyr.

O 1841, lluniwyd y wybodaeth gan rifwyr y cyfrifiad, ac roedd pob un o'r rhain yn gyfrifol am ranbarth (yng nghefn gwlad, diffiniwyd rhanbarth fel ardal lle na fyddai rhaid i rifwr gerdded mwy na 15 milltir, ac mewn trefi, diffiniwyd rhanbarth fel tua 200 o dai).  Roedd pob penteulu yn llenwi ei ffurflen ei hun, ac felly roedd camgymeriadau'n gyffredin. Cafodd y ffurflenni hyn eu copio i mewn i lyfrau gan y rhifwyr, a'u hanfon i Swyddfa'r Cyfrifiad yn Llundain: y rhain yw "canlyniadau'r cyfrifiad", ac roedd rhaid eu llenwi yn Saesneg. Erbyn hyn, caiff y copiau gwreiddiol eu cadw yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, ond maent wedi cael eu rhoi ar ficroffilm ac maent ar gael yn lleol.

Gwnaed cyfrifiad 1841 ar noson y 6/7 Mehefin. Am y tro cyntaf, cofnodwyd enw unigolion, eu hoed (i'r 5 agosaf ar gyfer pawb dros 15 oed) a'u galwedigaeth. Gofynnwyd i drigolion nodi a oeddent wedi'u geni yn y sir yr oeddent yn byw ynddi ar y pryd.

Gwnaed cyfrifiad 1851 ar noson y 30/31 Mawrth. O hyn ymlaen, cofnodwyd yr union oed, statws priodasol a pherthynas unigolion â'r penteulu. Mae mannau geni yng Nghymru a Lloegr wedi'u nodi'n fanwl.

Gwnaed cyfrifiad 1861 ar noson y 7/8 Ebrill; gwnaed cyfrifiad 1871 ar noson yr 2/3 Ebrill; gwnaed cyfrifiad 1881 ar noson y 3/4 Ebrill; a gwnaed cyfrifiad 1891 ar noson y 5/6 Ebrill. Mae pob un o'r rhain yn cynnwys yr un wybodaeth gyffredinol â chyfrifiad 1851 a nodir uchod.

Yn 1891 ychwanegwyd rhagor o wybodaeth ynglyn â nifer yr ystafelloedd a ddefnyddiwyd, os ychwanegwyd llai na phump, yn ogystal â chwestiwn ar y gallu i siarad Cymraeg.

Roedd cwestiynau cyfrifiad 1901 mwy neu lai yr un fath â chwestiynau 1891.

Roedd cyfrifiad 1911 yn gyfrifiad aelwydydd a wnaed ar nos Sul 2 Ebrill.  Cyfrifiad 1911 oedd y cyntaf lle cadwyd rhestr deiliad y cartref fel y prif gofnod, yn hytrach na nodiadau'r cyfrifydd, felly bydd modd i chi weld llawysgrifen eich cyndadau yn y rhan fwyaf o achosion wrth edrych ar ganlyniadau cyfrifiad 1911.

Mae'r holl wybodaeth bersonol ar y cyfrifiad yn aros yn gyfrinachol am 100 mlynedd, felly'r canlyniadau diweddaraf y gellir eu defnyddio yw canlyniadau 1911.

Mae Archifau Powys a holl lyfrgelloedd Powys yn cynnig mynediad am ddim i wefannau Findmypast ac Ancestry lle gallwch chwilio trwy gofnodion cyfrifiadau 1841-1911. 

 

 

Clirio