
Mae'r cyfrifoldeb dros ddarparu Addysg Oedolion ym Mhowys yn awr wedi cael ei drosglwyddo i Goleg Powys. Felly, ni fyddwch yn gallu cael gafael mewn gwybodaeth am gyrsiau newydd ar y wefan hon.
Bydd Coleg Powys yn barod i roi'r holl wybodaeth rydych ei hangen i chi, ynghyd â chymryd enwau ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol. Mae'r manylion cyswllt i'w gweld isod:
Gwefan Coleg Powys: www.coleg-powys.ac.uk
Ers 1988, mae Hyfforddiant Powys wedi bod yn datblygu busnesau ac unigolion ledled canolbarth Cymru trwy gynnig dull proffesiynol o ddatblygu staff. Mae'r cynnyrch a'r gwasanaethau'n cynnwys ystod eang o raglenni hyfforddiant, gyda llawer ohonynt yn arwain at NVQ.
Cynigir rhaglenni astudio unigol, fel rheol yn cynnwys prif gwrs ac amrywiaeth o gymwysterau eraill yn ymwneud â phynciau arbenigol eraill, gwobrwyon, TGAU a Sgiliau Allweddol.
Neu, mae'n bosibl cyfuno rhai pynciau, e.e. Gwobrwyon Cenedlaethol BTEC neu TAAU i greu craidd y rhaglen. Mae rhaglen astudio wedi'i theilwra'n rhoi cyfle i ennill nifer o gymwysterau.
Ewch i wefan Coleg Powys i gael rhagor o fanylion.

Dewch i glywed rhagor am yr aelodaeth am ddim a'u rhaglen o sgyrsiau a gweithdai am ddim ar bynciau sy'n amrywio o “Ddefnyddio'r We i Ymchwilio i'ch Goeden Deulu” i “Hanes Cwm Elan”. Mae Archifau Powys yn cynnig amrywiaeth o ddeunydd a gwasanaethau. Mae eu manylion i'w gweld ar eu gwefan. Mae yno hefyd ddolenni i ‘Hanes Digidol Powys’, ‘Prosiect Powys: Diwrnod ym Mywyd’ a ‘Chwech o Gymunedau Powys Ar-lein’. Felly, os byddwch angen deunydd ar gyfer cwrs, neu os oes gennych ddiddordeb mewn hanes lleol, ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth.