A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Gall y 'Lifeline 400', pan fydd yn cael ei wasgu, rhybuddio aelod o'r tîm Llinell Ofal yn Llandrindod. Bydd yr aelod o staff yn gallu galw am gymorth gan gymydog, aelod o'r teulu neu'r gwasanaethau brys.Â
Bydd gosod Botwm Galwyr Ffug ger y drws yn galluogi'r defnyddiwr i alw am gymorth gan y tîm Llinell Ofal ar unrhyw bryd pan fydd rhywun dieithr yn gofyn am fynediad i'ch cartref.
Bydd y canfodydd radio twt hwn yn rhoi rhybudd cynnar trwy roi gwybod i'r ganolfan fonitro a rhybuddio am unrhyw lifogydd posibl yn y cartref.
Gallai'r ddyfais hon arbed eich bywyd, mae'r canfodydd mwg radio hwn yn eich diogelu'n fwy trwy wneud galwad yn syth i'n staff ar y Llinell Ofal.
Mae'r teclyn hwn yn canfod symudiadau ac yn rhoi rhybudd os nad oes unrhyw symudiadau yn cael eu canfod. Bydd y tîm Llinell Ofal yn gallu darganfod hyn trwy wrando a chofnodi presenoldeb unrhywun na ddylai fod yna neu os nad oes unrhyw symudiadau.
Bydd y teclyn hwn yn gallu canfod cwymp difrifol yn awtomatig a rhybuddio'r tîm Llinell Ofal 24 awr.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cyfarpar hwn yn gweithio, ffoniwch tîm gweinyddol y Llinell Ofal ar 0845 602 7030.  P'un ai os yw'r ymholiad ar eich cyfer chi neu aelod o'ch teulu, bydd ein staff cymwys yn gallu rhoi cyngor i chi os yw'r gwasanaeth yn addas a'r prisiau wythnosol. Neu gallwch anfon am becyn cais trwy glicio yma.Â
Â
(I weld fersiynau mwy o'r lluniau uchod, cliciwch ar y llun).