English

Cyfleusterau Awyr Agored

Canolfan Hamdden Aberhonddu, gyda chefndir hyfryd y Bannau Brycheiniog a chyfleusterau arlwyo ar y safle, yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau athletau, twrnameintiau pêl-droed / hoci a llawer mwy.

Mae ein cyfleusterau awyr agored yn cynnwys Trac Athletau ynghyd â Phafiliwn a chyfleusterau newid, Cae Chwarae Astro Turf gyda llifoleuadau a Chyrtiau Tennis / Pêl-rwyd.

Cysylltwch â'r Dderbynfa i gael rhagor o fanylion ac i weld pryd maent ar gael.

 

 

 

 

awyr agored