A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae Adran 58 yn rhybudd cyfreithiol y gellir ei gyflwyno i'r holl 'ymgymerwyr statudol' sy'n gwneud unrhyw waith yn y sir. Gall ymgymerwyr statudol gynnwys y mathau canlynol o gwmniau – Dwr Cymru Welsh Water, Hafren Trent, British Telecom, Western Power Distribution ac ati.
Mae rhybudd Adran 58 yn atal 'ymgymerwyr statudol' rhag tyllu ffordd am gyfnod o rhwng 3 a 5 mlynedd wedi i'r ffordd gael wyneb newydd neu gael ei hailadeiladu. Bydd ymgymerwyr statudol yn gallu tyllu ffordd mewn achosion arbennig, er enghraifft os bydd argyfwng neu os bydd angen darparu gwasanaeth i gwsmer newydd.
Mae modd gweld y rhybuddion Adran 58 sydd mewn grym ar hyn o bryd trwy'r dolenni yn y ddewislen ar ochr y dudalen.