A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Gwaith Stryd

Gwaith Stryd o fewn Cyngor Sir Powys

Mae canran uchel o'r gwaith stryd sy'n cael ei wneud ym Mhowys yn cael ei wneud gan gwmniau gwasanaethau preifat, fel Western Power Distribution, British Telecom, Dwr Cymru  Wales & West Utilities ac ati, sy'n tyllu'r ffyrdd/palmentydd er mwyn gosod, adnewyddu neu drwsio eu hoffer. Ar hyn o bryd, mae tua 10 cwmni gwasanaethau trwyddedig sydd wedi gweithio, neu sy'n bwriadu gweithio yn y Sir.

Rhaid i'r holl gwmniau gwasanaethau sy'n gweithio ar briffyrdd cyhoedus ddilyn Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion yn ymwneud â:

  • Tyllu mewn modd diogel
  • Safonau ailosod
  • Cymwysterau staff
  • Hysbysu'r Cyngor am waith arfaethedig

Ym Mhowys, mae tua 4,000 darn o waith yn cael ei wneud gan gwmniau gwasanaethau bob blwyddyn, ac mae'r mwyafrif yn waith trwsio bychan.

Gwneud Cais am Drwydded

Cliciwch yma i wneud cais am drwyddedau yn ymwneud â gwaith stryd, sgips neu sgaffaldiau.

Cyfrifoldebau'r Cyngor

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gydlynu a monitro gwaith stryd a wneir gan gwmniau gwasanaethau.  Bydd gwybodaeth am waith stryd sydd wedi'i gynllunio yn cael ei roi ar y gofrestr Gwaith Stryd. Mae'r gofrestr yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Y cwmni gwasanaethau sy'n gwneud y gwaith
  • Y dyddiadau cychwyn a gorffen sydd wedi'u cynllunio
  • Lleoliad y gwaith
  • Disgrifiad o'r gwaith sydd i'w wneud

Monitro gwaith stryd

Fel rhan o'r broses fonitro, bydd y Cyngor yn archwilio deg y cant o'r gwaith a wneir gan gwmniau gwasanaethau ar bob un o dri cham gwahanol.  Os bydd unrhyw beth yn anghywir, bydd Cyngor Sir Powys yn ceisio sicrhau fod hynny'n amharu cyn lleied ag sy'n bosibl ar y cyhoedd tra bydd y cwmni'n datrys unrhyw broblemau.  Gall y cwmni gael dirwy os na fyddant yn cydymffurfio. Mewn rhai achosion, gall y Cyngor wneud y gwaith ei hun, a chodi tâl ar y cwmni am y gwaith.

Grymoedd cyfyngedig sydd gan y Cyngor i godi tâl ar gwmniau am beidio â gorffen y gwaith cyn gynted ag sy'n ymarferol. Gall cwmniau wneud cais am estyniad amser os bydd unrhyw amgylchiadau nad oeddynt wedi'u rhagweld.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal â'r cwmniau gwasanaethau bob chwarter i drafod unrhyw brosiectau mawr sydd wedi'u cynllunio ac unrhyw faterion cysylltiedig eraill.

Cyswllt Gwasanaeth

Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol

Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7035

Ffacs: 01597 827276

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

RSS