A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Mae rhywfaint o'r gwaith ysgrifenedig gorau sydd ar gael wedi'i anelu at y grwp oedran hwn. Mae mor syml â hynny! Felly peidiwch â cholli'r cyfle!
Mewn rhai llyfrgelloedd cangen, mae'r llyfrau hyn yn eu hadran eu hunain, tra bydd llyfrau ar gyfer y grwp hwn wedi'u cynnwys ar y silff ffuglen i oedolion mewn llyfrgelloedd eraill. Bydd y llyfrgellydd cangen yn falch o'u dangos i chi. Lle bynnag y maent o fewn y llyfrgell, byddant wedi'u nodi'n glir gyda label goch ar feingefn y llyfr.
Yn yr adran hon rydym yn cael cip o flaen llaw ar rai o'r ffuglenni newydd sy'n cael eu hychwanegu at y stoc Oedolion Ifanc/Pobl Ifanc.
Cliciwch yma i'w gweld
Am lyfrau cyn hyn ewch i'r rhestr "archifau" yn y golofn dde.

Yn y adran hon, rydym yn argymell rhai o'r llyfrau ffuglen gorau i rai yn eu harddegau wrth iddynt gael eu hychwanegu at ein stoc.
Cliciwch yma i glywed rhagor
Aelodaeth Plant
Hyd at 14 oed cei di fod yn aelod o lyfrgell y plant. Bydd angen llofnod rhiant neu warcheidwad i ymuno ac yna byddi di'n gallu benthyg hyd at 10 eitem gyda 2 ohonynt yn llyfrau llafar. Mae gennym DVD's a CD's cerddoriaeth i blant ond bydd rhaid cael oedolyn i'w benthyg nhw i ti. Pan fyddi di'n 11 oed byddi di'n gallu benthyg llyfrau i Oedolion Ifanc sydd â label goch ar yr ymylon. Hyd at 16 oed byddi di'n gallu defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus y llyfrgell fel aelod o Glwb y Rhyngrwyd (Clicia fan hyn am fanylion).
Yn 14 oed Â
Ar dy ben-blwydd yn 14 oed cei di ddod yn aelod oedolyn o Lyfrgelloedd Powys. Os wyt ti eisoes yn aelod, bydd y llyfrgell yn diweddaru dy aelodaeth i un oedolyn. Os nad wyt ti wedi bod yn aelod o'r blaen a dy fod am ymaelodi'n 14 oed, yna cer draw i'r llyfrgell leol gyda rhyw ddogfen sy'n dangos dy gyfeiriad. Bydd llythyr swyddogol o'r banc neu rywbeth fel llythyr gan dy gwmni ffôn symudol gyda dy enw a'th gyfeiriad arno'n iawn. Os yw hyn yn anodd, gall dy rieni helpu trwy ddangos bil sydd â chyfeiriad y teulu arno.
Fel aelod oedolyn yn 14 oed, byddi di'n gallu benthyg yr 20 eitem lawn gan gynnwys 4 CD cerddoriaeth a DVD's gyda thystysgrif briodol. (Bydd rhaid i ti fod yn 15 oed i fenthyg ffilm 15 oed ayb.) (Clicia fan hyn i weld y gost am fenthyg yr eitemau hyn). Fel aelod oedolyn, ti fydd yn gyfrifol os wyt ti'n colli eitem neu am dalu dirwy.
Mae'r rheolau am ddefnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd ychydig yn wahanol. Tan dy fod yn 16 oed, cei di ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell fel aelod o Glwb y Rhyngrwyd (clicia fan hyn am wybodaeth). Yn 16 oed cei ddefnyddio'r cyfrifiaduron yr un fath ag unrhyw oedolyn.
Â

Er ein bod yn tynnu sylw at y llyfrau gorau a'r rhai diweddaraf yn yr Adran Oedolion Ifanc, cyhoeddwyd rhai llyfrau gwych yn y blynyddoedd a fu. Rydym wedi cadw'r erthyglau ar y llyfrau hyn sydd ychydig yn hyn yn yr archif yma.
> Gwanwyn 2012
> Hydref 2011
> Gwanwyn 2011
> Hydref 2010
> Gwanwn 2010
> Hydref 2009
> Gwanwyn 2009
> Hydref 2008
> Gwanwyn 2008
> Hydref 2007
> Gwanwyn 2007
> Hydref 2006
> Gwanwyn 2006
> Hydref 2005