A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Swn

Beth yw llygredd swn?

Gellir diffinio swn fel swn di-groeso a gall flino a chythruddo pobl a tharfu ar gwsg.

To top

Beth yw'r math o broblemau swn y gall y Cyngor ddelio â hwy?

Mae gan Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd bwerau cyfreithiol penodol i ddelio â phroblemau swn a gall ddelio gyda chwynion swn o amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • Ffynonellau domestig e.e. cwn yn cyfarth, cerddoriaeth uchel, swn o waith atgyweirio ar y cartref
  • Ffynonellau diwydiannol e.e. gwyntyllau swniog, generaduron
  • Ffynonellau masnachol e.e. swn adloniant.
  • Safleoedd Adeiladu e.e. swn o waith adeiladu/dymchwel.
  • Synau penodol yn y stryd o gerbydau, peiriannau ac offer.

Ynghyd â delio gyda chwynion am swn, rydym hefyd yn gwneud llawer o waith atal i roi terfyn ar swn yn digwydd. Mae'r gwaith yma yn cynnwys:

  • Asesu effaith swn o ddatblygiadau newydd dan y broses Gynllunio.
  • Ymgynghori ar geisiadau ac amrywiadau Deddf Trwyddedu 2003 i atal niwsans cyhoeddus.
  • Caniatâd o Flaen Llaw ar gyfer gwaith Adeiladu/Dymchwel.
  • Ymgyrchoedd addysgol e.e. Diwrnod Gweithredu yn Erbyn Swn.

To top

A oes dewisiadau eraill yn hytrach na gwneud cwyn am swn?

Mae problemau swn yn cael eu datrys orau mewn ffordd anffurfiol yn aml trwy gael sgwrs gyda'r cymydog dan sylw. Efallai na fydd eich cymydog yn ymwybodol eu bod yn achosi problem i chi. Os byddwch yn rhoi gwybod iddynt eich bod yn cael problem, rydych trwy hynny yn rhoi'r cyfle iddynt ddelio gyda'r swn heb yr angen i wneud cwyn ffurfiol.

Gall Cyfryngu Powys, sef gwasanaeth cyfryngu lleol, helpu i ddatrys dadleuon rhwng cymdogion.

Efallai y bydd achlysuron lle nad ydych am sgwrsio yn uniongyrchol â chymydog. Os felly, gallwch wneud cwyn am niwsans i'r Cyngor.

To top

Sut ydw i'n gwneud cwyn am swn?

Gellir gwneud cwynion i Iechyd yr Amgylchedd yn y ffyrdd canlynol:

  •        yn bersonol yn ein swyddfeydd
  •        dros y ffôn
  •        trwy lythyr
  •        trwy e-bost

Dylai eich cwyn gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  •        Eich enw a'ch cyfeiriad (lle bo hynny'n bosibl) a rhif ffôn yn ystod y dydd.
  •        Cyfeiriad (neu safle) lle mae'r niwsans yn dod ohono a'r math o niwsans.
  •        Pryd a pha mor hir mae'r niwsans yn digwydd.
  •        Y ffordd mae'r niwsans yn effeithio arnoch chi (e.e. mwg o goelcerth yn eich rhwystro rhag eistedd yn eich gardd).
  •        Unrhyw beth yr ydych wedi'i wneud i geisio delio â'r broblem (e.e. siarad â'r unigolyn sy'n achosi'r niwsans).
  •        Unrhyw wybodaeth ar fanylion landlord [os yn berthnasol].

Bydd manylion amdanoch megis eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cadw'n gwbl  gyfrinachol.

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS